Dysgu Cyfunol

Rydym wedi gweithio'n agos gydag ymarferwyr ar draws y pedwar consortiwm i gynllunio a datblygu modiwlau dysgu cyfunol i gefnogi athrawon a myfyrwyr.

 

Mae sampl o'n hadnoddau dysgu cyfunol ar gael isod. I weld yr holl adnoddau sydd ar gael, ewch i'n gwefan adnoddau penodol.

Mae'r fanyleb wedi'i rhannu'n fodiwlau addysgu a dysgu hylaw. Mae pob modiwl yn ymdrin ag elfen allweddol o'r fanyleb a gellir ei ddefnyddio ar gyfer dysgu gwrthdro, gwaith cartref, adolygu neu ar gyfer parhau i ddysgu os na all eich myfyrwyr fynychu'r ysgol.

 

Bydd modiwlau'n cael eu cyhoeddi'n rheolaidd, ac er mwyn eich helpu i gynllunio rydym wedi cynhyrchu amserlen o gyhoeddiadau hyd at y Nadolig. Byddwn yn cynhyrchu amserlen bellach yn nhymor y Gwanwyn.

 

Rydym yn croesawu adborth ar yr unedau cyntaf hyn fel y gellir defnyddio hyn i lywio pob uned yn y dyfodol. Os oes gennych awgrymiadau neu os hoffech drafod anghenion ar gyfer pynciau eraill, cysylltwch â'r tîm adnoddau: adnoddau@cbac.co.uk