CBAC yn cefnogi project addysgu creadigol-feirniadol arloesol
Mae CBAC yn falch iawn o gefnogi'r project 'Beyond the Essay: Creative-Critical Teaching', sef menter newydd uchelgeisiol sydd â'r nod o ailystyried rôl ymarfer creadigol a beirniadol wrth astudio llenyddiaeth ar draws ysgolion a phrifysgolion.
Dan arweiniad Thomas Karshan ym mhrifysgol East Anglia a Kate Bomford ym mhrifysgol UCL Institute of Education, bydd y project tair blynedd yn dod ag academyddion, athrawon, sefydliadau proffesiynol a chyrff dyfarnu ynghyd i archwilio sut gall dulliau creadigol gyfoethogi addysgu, dysgu ac asesu Llenyddiaeth Saesneg.
|
|
Wrth sôn am gyfranogiad CBAC, dywedodd Rhodri Jones, Swyddog Pwnc Llenyddiaeth Saesneg yn CBAC: “Rydyn ni'n falch o gefnogi project sy'n ceisio gwneud astudio llenyddiaeth mewn ysgolion a phrifysgolion yn atyniadol i ddysgwyr. Mae'r project yn cynnig cyfle unigryw i ddod ag ymchwilwyr, athrawon a chyrff dyfarnu at ei gilydd i ystyried y gwaith o addysgu ac asesu llenyddiaeth, gan sicrhau bod y pwnc yn parhau i fod yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn ysbrydoledig i genedlaethau o ddysgwyr y dyfodol.” |
Ynglŷn â'r project
Bydd y project yn digwydd rhwng 2026 a 2029, a bydd yn canolbwyntio ar ddimensiynau hanesyddol, ymarferol a sefydliadol astudio llenyddiaeth, a'r nod yw cryfhau'r berthynas rhwng ymarfer creadigol a dadansoddi beirniadol.
Bydd y prif ddeilliannau'n cynnwys:
- Addysgu hanes llenyddiaeth yn gynhwysfawr am y tro cyntaf yn y DU
- Ymchwil yn yr ystafell ddosbarth i ddulliau addysgu creadigol-feirniadol
- Datblygu adnoddau addysgu mynediad agored
- Cydweithio rhwng prifysgolion, ysgolion, athrawon a chyrff dyfarnu
- Cyfrannu at drafodaethau ar bolisïau addysg Saesneg y dyfodol
Mae'r project yn dod ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac arbenigwyr ynghyd, gan gynnwys The English Association, National Association for the Teaching of English (NATE), University English, English and Media Centre, a chyrff dyfarnu o bob cwr o'r DU.
Trwy gysylltu addysg uwchradd ac addysg uwch, ac annog dulliau arloesol o astudio gwaith llenyddol, nod y project yw creu dyfodol mwy dynamig ac integredig ar gyfer addysgu a dysgu Saesneg.
Darganfod mwy
Mae rhagor o wybodaeth am y project ar gael yma.
