CBAC yn Arddangos yn Skills Cymru 2022

CBAC yn Arddangos yn Skills Cymru 2022

Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o SkillsCymru eleni – digwyddiad sgiliau, gyrfaoedd a phrentisiaethau mwyaf Caerdydd.

Pryd?

19 Hydref (9:30 – 3 p.m. / 4 – 6:30 p.m. – sesiwn hwyrnos) 
20 Hydref (9:30 – 3 p.m.)

Ble?

Motorpoint Arena, Caerdydd

Am y digwyddiad

SkillsCymru yw cyfres fwyaf Cymru o ddigwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau, gan ddod â phobl ifanc, busnesau, athrawon ac adrannau Llywodraeth Cymru at ei gilydd.  Mae'r digwyddiad dau ddiwrnod rhad ac am ddim wedi'i anelu at bobl ifanc 14-19 oed, i'w helpu i archwilio'r amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn ogystal â'r llwybrau atyn nhw.

Dysgwch fwy ar wefan Sgiliau Cymru.

Cwrdd â'r tîm

Bydd ein harbenigwyr pwnc ar stondin 13 i ateb eich cwestiynau, archwilio eich opsiynau, ac arddangos ein cyfoeth o adnoddau a chanllawiau rhad ac am ddim.

Dywedodd Caroline Morgan, ein Rheolwr Fframwaith Bagloriaeth Cymru:

"Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod cynrychiolwyr ac esbonio cynifer o fanteision ein cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd. Rydym wedi sicrhau y bydd y cymhwyster arloesol hwn yn ysbrydoli dysgwyr ac yn rhoi'r sgiliau iddyn nhw a fydd yn eu galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang.”