CBAC Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth wedi'i chymeradwyo gan Cymwysterau Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth wedi'i gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. 

Mae'r gymeradwyaeth yn garreg filltir bwysig i CBAC ac yn cwblhau ein cyfres lawn o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth i Gymru gan ddarparu llwybr dilyniant clir i ddysgwyr o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3. 

Wrth sôn am y gymeradwyaeth, dywedodd Emma Vincent, Swyddog Pwnc Teithio a Thwristiaeth: 

"Rydym yn hynod falch o weld y cymhwyster olaf yn ein cyfres o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth yng Nghymru yn cael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Cymwysterau Cymru. Mae'r cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth wedi'i gynllunio i ategu ein cymwysterau Lefel Mynediad/Lefel 1 a TAAU, gan ddarparu llwybr dilyniant clir i ddysgwyr. Rydym yn falch o fod yr unig gorff dyfarnu yng Nghymru i gynnig dilyniant drwy gyfres gyflawn o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth o Lefel Mynediad 1 i Lefel 3."

Mae'r gymeradwyaeth ddiweddaraf hon yn cryfhau sefyllfa CBAC ymhellach fel prif gorff dyfarnu Cymru, gan ddarparu cymwysterau dwyieithog o ansawdd uchel sy'n bodloni anghenion dysgwyr, addysgwyr a chyflogwyr. Drwy dynnu ar dros 75 mlynedd o brofiad, rydym yn parhau i chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu cymwysterau sy'n cefnogi system addysg gynhwysol, uchelgeisiol ac sy'n canolbwyntio ar y dyfodol i Gymru. 

Wedi'i ddatblygu gyda'r diwydiant, ar gyfer y diwydiant

Mae ein cymhwyster Lefel 3 wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr teithio a thwristiaeth ar draws Cymru i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad sydd eu hangen ar ddiwydiant heddiw. 

Gan weithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru, mae CBAC wedi datblygu dwy uned arbenigol: 

  • Uned 2 – Cymru fel Cyrchfan 
  • Uned 6 – Marchnata Digidol ar gyfer Twristiaeth a Digwyddiadau 

Mae'r unedau hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o'r hyn sy'n unigryw i Gymru o ran twristiaeth wrth ennill y sgiliau digidol a hyrwyddo sy'n gynyddol ofynnol ar draws y sector. Gyda'i gilydd, maen nhw'n adlewyrchu ymarfer presennol y diwydiant ac yn cefnogi datblygiad gweithlu medrus a fydd yn cyfrannu at dwf economi Cymru yn y dyfodol. 

Cefnogi cynnydd dysgwyr

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig yn rhan o gynnig cynhwysfawr CBAC ar gyfer Teithio a Thwristiaeth, gan greu llwybr dilyniant clir o Lefel Mynediad/Lefel 1, drwy'r TAAU mewn Teithio a Thwristiaeth, i Lefel 3. 

Mae'r cymhwyster yn cyfuno sylfaen gadarn o wybodaeth graidd â dewis o unedau, gan alluogi canolfannau i deilwra'r hyn maen nhw'n ei gyflwyno yn ôl diddordebau dysgwyr ac anghenion cyflogwyr lleol. 

Darganfod mwy  

I ddysgu mwy am y cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif Estynedig mewn Teithio a Thwristiaeth, ewch i dudalen we'r cymhwyster. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm drwy anfon e-bost at twristiaeth@cbac.co.uk.