CBAC i Arddangos yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant 2026

Rydym yn falch iawn o fod yn arddangos yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant 2026, a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.  
 
Pryd?
23 Medi 2026  
Ble? Stadiwm Swansea.com  

Ynglŷn â'r digwyddiad
 
Mae'r digwyddiad yn dod ag ymarferwyr, arweinwyr ac arbenigwyr o bob rhan o'r sector ynghyd i rannu syniadau, archwilio arfer gorau a thrafod rhai o'r prif gyfleoedd a heriau sy'n wynebu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.  

Bydd rhaglen y gynhadledd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o destunau pwysig, gan gynnwys arfer gwrthwahaniaethol, arwain a rheoli, llesiant, a fframwaith NEST ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc. Mae'n addo bod yn ddiwrnod ysbrydoledig o ddysgu proffesiynol, adfyfyrio a rhwydweithio.  
 
Cwrdd â'r tîm 
 

Os byddwch chi'n mynychu'r gynhadledd, byddem wrth ein bodd yn eich gweld wrth ein stondin. P'un a fyddech chi'n hoffi dysgu mwy am ein cymwysterau, trafod datblygiadau yn y sector, neu ddim ond dweud helo, bydd Sascha Hallett ac Amy Thomas wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ac i arddangos ein amrywiaeth eang o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.  

Dywedodd Amy Thomas, Swyddog Pwnc Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: 
"Rydym yn falch iawn o fod yn mynychu Cynhadledd Genedlaethol y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant eleni.  Mae'n gyfle mor wych i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru sy'n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi gofod gwerthfawr i rannu syniadau a dysgu o brofiadau ei gilydd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at arddangos y gefnogaeth a'r cymwysterau rydyn ni'n eu cynnig a dathlu'r gwaith gwych sy'n digwydd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gobeithiwn eich gweld chi yno!” 

Dysgwch fwy am y digwyddiad yma.