CBAC ar y rhestr fer ar gyfer y wobr nodedig – gwobr cyflogwr cenedlaethol  

Mae CBAC yn falch iawn o rannu’r llwyddiant o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2025, yng nghategori 'Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Arian'.  

Yn ei 12fed flwyddyn, mae'r Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl yn cydnabod sefydliadau ledled y DU sy'n gosod y safon ar gyfer yr hyn mae'n ei olygu i fod yn gyflogwr gwych.  

Mynegodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC, ei falchder yn y gydnabyddiaeth: 

"Rydym yn hynod falch ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wneud CBAC yn le mae pobl yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, a'u hysgogi i wella. Mae ein cynnydd o'r achrediad cychwynnol 'Buddsoddi mewn pobl' yn 2021 i gyflawni statws Arian yn 2024 yn dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod, a pha mor ddifrifol rydym ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i fuddsoddi yn ein pobl."  

Ychwanegodd: Mae'r fframwaith hwn wedi ein helpu i lunio ein diwylliant mewnol gyda'r systemau, polisïau, ac, yn bwysicaf oll, y bobl gywir, i sicrhau bod CBAC yn parhau i fod yn le gwych ac ysbrydoledig i weithio."   

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2025, lle bydd sefydliadau o wahanol ddiwydiannau yn dod at ei gilydd i rannu arfer da ac i ddathlu llwyddiannau rhagorol mewn datblygu’r gweithle. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid arbenigol sy'n cynrychioli amrywiaeth eang o ddiwydiannau.   

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â CBAC, ewch i'n tudalen we Gweithio gyda ni.