CBAC ac ACT yn lansio cymhwyster llesiant i bobl ifanc

CBAC ac ACT yn lansio cymhwyster llesiant i bobl ifanc

Mae CBAC, corff dyfarnu mwyaf Cymru, wedi cydweithio ag ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, i greu cymhwyster Hunanddatblygiad a Llesiant wedi'i dargedu at bobl ifanc. Mae hwn yn gymhwyster sydd ar flaen y gad yn y sector a dyma'r cymhwyster cyntaf o'i fath i ACT a CBAC. Mae'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r materion a rhwystrau i ddysgu sydd bellach yn cael eu hwynebu gan lawer o bobl ifanc heddiw.

Lluniwyd unedau'r cymhwyster o gwmpas cylch llesiant ACT sy'n cwmpasu amrywiol destunau o wydnwch emosiynol i hunaniaeth bersonol, hylendid a mwy. Mae unedau'r cymhwyster yn cefnogi twf personol y dysgwyr yn ogystal â sut maen nhw'n ymgysylltu â dysgu. Mae hwn yn gymhwyster sy’n unedol ac yn seiliedig ar gredydau, sy'n golygu bod modd bod yn hyblyg a'i addasu i'r unigolyn neu i grwpiau o unigolion.

Crewyd y cymhwyster hwn dros gyfnod o ddwy flynedd, ac mae'n defnyddio gwybodaeth am y materion penodol mae dysgwyr ifanc yn sôn amdanyn nhw wrth ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru. ACT sy'n darparu'r rhaglen hon, sy'n rhaglen hyfforddi a datblygu i rai 16-19 mlwydd oed ac yn eu helpu i gaffael y sgiliau, cymwysterau, a'r profiad i gael swydd neu hyfforddi ymhellach. Mae'r rhaglen TSC+ yn gwbl unigryw gan ei bod yn deall nad yw'r un anghenion gan bawb, mae'n cael ei theilwra i weddu i anghenion y dysgwr unigol.

Dechreuir cyflwyno'r cymwysterau Hunanddatblygiad a Llesiant i'r garfan gyntaf o ddysgwyr y mis hwn, a bydd unedau ar gael ar lefel Mynediad 3 a/neu Lefel 1. Mae'n rhoi hyblygrwydd felly i ddewis unedau ar y lefel sy'n briodol i bob dysgwr.

Wrth sôn am y cymhwyster, dywedodd Lewis Bowden, Rheolwr Gweithredol TSC+, "Rydym yn llawn cyffro am y cymhwyster hwn a'r hyn y bydd yn ei olygu i'n dysgwyr. Dyma'r cymhwyster cyntaf o'i fath ac mae'n ymwneud yn uniongyrchol â'r materion hynny sy'n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Bu'n wych cydweithio â CBAC i greu cymhwyster mor wych a chadarn. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith mae'n ei chael wrth i ni ddechrau cyflwyno'r cymhwyster i ddysgwyr."

Hefyd dywedodd Bryan Davies, Swyddog Pwnc y cymhwyster yn CBAC: “Cynnig y cyfle i ddysgwyr Cymru gyflawni eu potensial sydd wrth wraidd ein gwaith i gyd ac rydym yn angerddol am hynny. Ond, rydym hefyd yn deall nad yw llwybr addysg pob dysgwr yr un fath. Rydym yn llawn cyffro felly i fod yn rhan o bartneriaeth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau gwahanol at gyflogaeth drwy gyfrwng cymwysterau fel hyn.

'Gan gydweithio â'n cydweithwyr yn ACT rydym wedi gallu llunio cymhwyster arloesol a deniadol ac rydym yn hyderus y bydd ei effaith yn un cadarnhaol gan helpu dysgwyr i feithrin llawer o'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw yn y gweithle heddiw."

I ddod i wybod mwy am ACT, TSC+ a chyfleoedd dysgu eraill sy'n seiliedig ar waith, ewch i www.acttraining.org.uk