Canllawiau Ychwanegol i Athrawon ar gael nawr
Mae'n bleser gan CBAC gyhoeddi ein 'Canllawiau i Athrawon (os bydd amhariad ar Addysgu a Dysgu)'. Er bod y canllaw RHAD AC AM DDIM hwn wedi'i gynllunio'n wreiddiol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi athrawon a dysgwyr os bydd amhariad pellach, mae'n cynnig amrywiaeth o nodweddion gan gynnwys:
- Rhestr gynhwysfawr o adnoddau rhad ac am ddim, wedi'u rhannu yn ôl pwnc a lefel i gynorthwyo'r broses o gyflwyno ein cymwysterau
- Strategaethau addysgu sy'n sicrhau y gellir ymdrin â’r cwrs cyfan ac unrhyw fylchau posibl yng ngwybodaeth dysgwr unigol
- Rhestri adnoddau, wedi'u rhannu fesul testun, i gefnogi athrawon i gynllunio gweithgareddau adolygu
- Sampl o gynlluniau gwersi i athrawon eu personoli yn ôl anghenion eu dysgwyr
- Canllawiau sy'n ysbrydoli ac adnoddau perthnasol i ddysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer eu hasesiadau
- Cynllunwyr myfyrwyr er mwyn galluogi dysgwyr i olrhain eu taith ddysgu a chanfod meysydd y mae angen cymorth ychwanegol ynddynt
Mae'r canllaw ar gael yn rhad ac am ddim drwy ddilyn y cyswllt canlynol, ochr yn ochr â'n pecyn cynhwysfawr o adnoddau digidol rhyngweithiol AM DDIM.