Brwdfrydedd dros gydweithio a chyd-awduro

Brwdfrydedd dros gydweithio a chyd-awduro

Delyth Jones, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Datblygu Cymwysterau, sy'n amlinellu pam mae ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid yn allweddol er mwyn datblygu cymwysterau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Wrth i'n taith o ddatblygu cymwysterau 'Gwneud-i-Gymru' barhau i fynd yn ei blaen, rydym yn paratoi ar gyfer cam nesaf ein gwaith datblygu.

Mae gweithio gyda'n gilydd, cydweithio ac ymgysylltu yn hanfodol os ydyn ni am lwyddo yn yr uchelgais sy’n gyffredin i ni i gyd o ddatblygu cymwysterau sy'n gynhwysol, yn ennyn diddordeb, yn cefnogi'r cwricwlwm ac sydd wir yn addas ar gyfer y dyfodol.

Cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru

Mae'n hanfodol bod egwyddorion a chanllawiau cadarn yn sail i bob rhan o'n gwaith datblygu.

Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn datblygu egwyddorion a chanllawiau manwl sy'n ymdrin ag arfer da yn gyffredinol o ran datblygu cymwysterau ond sydd hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar y Cwricwlwm i Gymru.

Yn ystod y cam o ddatblygu amlinelliadau o'r cymwysterau, rydym yn canolbwyntio ar y syniadau mawr sy'n bwysig i'r pwnc yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, wedi'u seilio ar y datganiadau perthnasol o'r hyn sy'n bwysig, egwyddorion cynnydd ac ystyriaethau penodol i bwnc.

Mae'r rhain yn llywio dibenion yr uned ac mae'r rhain yn eu tro yn llywio'r cynnwys manwl i'w ddatblygu yn ystod y cam nesaf.

Mae'n bwysig i ni bod y cymwysterau newydd hyn yn cefnogi dysgwyr i sylweddoli pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.  I adlewyrchu'r uchelgais hwn, bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig yn cael eu datblygu mewn ffordd sy'n ystyried cyfleoedd ar gyfer ymgorffori themâu trawsbynciol a nodi cyfleoedd ar gyfer profiadau dysgu ac ar gyfer datblygu sgiliau cyfannol a thrawsgwricwlaidd.

Mae'n bwysig bod pawb sy'n rhan o'r project yn teimlo'u bod wedi'u grymuso i lwyddo ac rydym wedi datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer ein holl awduron a'n hadolygwyr yn seiliedig ar ein hegwyddorion a'n canllawiau.

Mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysig

Mae CBAC wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymwysterau newydd yn cyd-fynd ag anghenion ein cymdeithas amrywiol a dynamig sy’n parhau i ddatblygu.

Dyna pam y bydd pawb sy'n rhan o'r broses o ddatblygu cymwysterau yn derbyn hyfforddiant amrywiaeth gorfodol hefyd.

Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn gallu creu ymdeimlad o berthyn yn eu dysgu; er mwyn galluogi hyn, byddwn yn sicrhau bod yr holl nodweddion gwarchodedig, a phob ffurf o amrywiaeth, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu ein cymwysterau.

Byddwn yn ystyried sut gellir mynd i'r afael â hyn – gallai fod drwy gynnwys penodol mewn manylebau neu drwy'r Canllawiau Addysgu, er enghraifft.

Wrth ddatblygu cymwysterau, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant wedi’u gwreiddio ynddynt, yn gynrychiadol ac yn ddilys. Bydd y gwaith a wnawn yn adlewyrchu'r cefndiroedd amrywiol a bywydau pob dysgwr yng Nghymru.

Credwn fod amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn gallu bod yn gatalydd pwerus ar gyfer arloesedd a thwf economaidd – dros yr wythnosau nesaf rwy'n edrych ymlaen at rannu mwy gyda chi am y gwaith a wnawn i sicrhau ein bod yn gwneud ein rhan.

Mae'n bwysig eich bod yn dweud eich dweud...

Bydd llawer ohonoch chi'n ymwybodol ein bod wedi dechrau ar gyfnod cyffrous o ddatblygu yn ddiweddar; rydym yn croesawu eich safbwyntiau am yr amlinelliadau o'r cymwysterau ar gyfer y gyfres lawn o'r cymwysterau TGAU newydd. Gallwch ddod i wybod mwy am yr ymgynghoriad, gan ddweud eich dweud yma. Diolch yn fawr iawn i bawb ar draws Cymru sydd eisoes wedi cymryd rhan.

Bydd eich syniadau yn llywio'r amlinelliadau o'r cymwysterau y byddwn yn eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024; a byddwn yn darparu cynllun ar gyfer ein gwaith manwl yn gysylltiedig â chymwysterau yn y dyfodol – felly mae eich mewnbwn wir yn bwysig.

Delyth

 


 

Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion, y cyfleoedd a'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch y TGAU newydd, eich i'n hardal we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Mae CBAC yn barod'. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.