Beth yw dysgu proffesiynol mewn addysg a pham ei fod yn bwysig yng Nghymru?
Dysgu proffesiynol mewn addysg yw'r datblygiad parhaus y mae athrawon a staff ysgol yn ei wneud i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd.
Mae dysgu proffesiynol hefyd yn cael ei alw'n 'ddatblygiad proffesiynol parhaus' (DPP), ac mae'n galluogi addysgwyr i atgyfnerthu eu gwybodaeth am bwnc a datblygu dulliau addysgu newydd i wella canlyniadau i'w myfyrwyr yn y pen draw.
Gellir cyflawni hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau gwahanol, yn cynnwys cyrsiau dysgu proffesiynol (ar-lein neu wyneb yn wyneb), gweminarau, digwyddiadau hyfforddi, mentora a chefnogaeth pwnc-benodol.
Yn y blog hwn, rydyn ni'n ystyried pam mae dysgu proffesiynol yn bwysig i athrawon yng Nghymru, sut gall addysgwyr gryfhau eu gwybodaeth am bwnc, a'r gwahanol gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd ar gael drwy CBAC.
Pam mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn bwysig i athrawon yng Nghymru?
Mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn hanfodol i athrawon yng Nghymru wrth i addysg a chymwysterau barhau i ddatblygu.
Yng Nghymru, mae'r broses Adolygu Datblygiad Proffesiynol yn cefnogi dysgu proffesiynol parhaus athrawon drwy annog adfyfyrio ar ymarfer ystafell ddosbarth, canfod nodau datblygu a helpu athrawon i gyfrannu at flaenoriaethau gwella'r ysgol yn ehangach.
Mae dysgu proffesiynol o ansawdd uchel hefyd yn helpu addysgwyr i aros yn gyfredol o ran unrhyw newidiadau ar draws addysg yng Nghymru, gan gynnwys datblygiadau sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru a'r cymwysterau newydd. Drwy ddilyn cyrsiau dysgu proffesiynol a digwyddiadau hyfforddi, gall athrawon yng Nghymru atgyfnerthu eu gwybodaeth am bwnc a magu hyder yn yr ystafell ddosbarth.
Mae hyn yn ein harwain yn daclus at…
Sut gall athrawon atgyfnerthu eu gwybodaeth am bwnc drwy'r dysgu proffesiynol?
Mae datblygu gwybodaeth gadarn am bwnc drwy ddysgu proffesiynol yn rhan bwysig o ddysgu proffesiynol parhaus i athrawon.
Drwy gymryd rhan mewn cyrsiau pwnc-benodol, mae athrawon yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y cwricwlwm, gofynion asesu cymwysterau, a dulliau addysgu effeithiol yn eu maes pwnc.
Gall dysgu proffesiynol hefyd ddigwydd drwy weithgareddau cydweithredol fel trafodaethau grŵp, arolygon ac ymarferion marcio a rhwydweithio â chydweithwyr ac arbenigwyr.
Yn CBAC, rydyn ni'n cynnig cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim a chyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb â ffi. Mae ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn ffordd fuddiol a rhyngweithiol o roi hwb i'ch sgiliau addysgu, cael cefnogaeth pwnc-benodol a chlywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr pwnc profiadol.
Ochr yn ochr â'n darpariaeth ar-lein, mae ein cyrsiau wyneb yn wyneb yn cynnig cyfle i athrawon fanteisio ar wybodaeth fanwl ac arbenigedd ein cyflwynwyr, sy'n cynnwys athrawon, swyddogion pwnc, arholwyr a chymedrolwyr. Gallwch ddarganfod sut i gadw lle yma.
Faint o ddysgu proffesiynol ddylai athrawon ei wneud bob blwyddyn?
Nid oes nifer penodol o oriau y mae'n ofynnol i athrawon yng Nghymru eu cwblhau bob blwyddyn.
Yn hytrach, mae'r disgwyliadau'n seiliedig ar ddysgu proffesiynol parhaus yn rhan o'r broses adolygu datblygiad proffesiynol a blaenoriaethau ysgol gyfan.
Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn neilltuo amser cyfeiriedig ar gyfer dysgu proffesiynol a gallant hefyd annog athrawon i gymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol sy'n cefnogi eu nodau datblygu unigol ac anghenion eu pwnc neu gynllun gwella'r ysgol.
Cyfleoedd dysgu proffesiynol yn CBAC
Mae CBAC yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol wedi'u cynllunio i gefnogi athrawon i gyflwyno ein cymwysterau'n hyderus.
Pam dylech chi fynychu cyrsiau dysgu proffesiynol CBAC
-
Mae ein harbeniwyr pwnc yn darparu pob cwrs er mwyn eich galluogi i gyflwyno ein cymwysterau'n hyderus.
-
Rydyn ni'n darparu cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein dwyieithog er hwylustod o ran argaeledd a lleoliad.
-
Bydd ein harbenigwyr pwnc yn ymateb ac yn eich cefnogi a'ch arwain, er mwyn gwella eich dealltwriaeth o'r fanyleb.
-
Byddwch yn derbyn pecyn cynhwysfawr o adnoddau digidol, yn cynnwys ymatebion ymgeiswyr wedi'u hanodi.
-
Byddwch yn cael yr adborth diweddaraf ar y gyfres asesu ddiweddar er mwyn sicrhau bod eich arferion addysgu'n gyfredol.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim a chyrsiau wyneb yn wyneb â ffi CBAC?
Fe wnaethom ni gyfeirio'n gyflym at y rhain yn gynharach yn y blog, ond dyma ddadansoddiad mwy manwl o'r hyn y mae'r ddau fath o gwrs dysgu proffesiynol yn ei gynnig:
Cwrs dysgu proffesiynol ar-lein rhad ac am ddim CBAC
Mae ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn ffordd fuddiol a diddorol o wella eich dealltwriaeth o asesiadau a chanlyniadau dysgwyr. Maen nhw'n gyfle i chi wneud y canlynol:
-
Gwylio a dysgu: gwylio cyflwyniadau byw, gwrando ar arbenigwyr pwnc a dysgu ganddynt.
-
Rhwydweithio a thrafod syniadau: cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, arolygon ac ymarferion marcio, wrth sgwrsio â chydweithwyr sy'n addysgu'n broffesiynol.
-
Gofyn cwestiynau a chael mynediad at ddeunyddiau: cael atebion i'ch cwestiynau yn ystod y sesiwn a lawrlwytho deunyddiau cefnogi y gallwch eu rhannu â'ch cydweithwyr.
Mae modd i chi gael mynediad at ein safle hyfforddiant ar-lein gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o ddyfeisiau sydd â chysylltiad rhyngrwyd a seinyddion/clustffonau, ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur personol bwrdd gwaith.
Cwrs dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb â ffi CBAC
Mae ein cyrsiau wyneb yn wyneb â ffi yn gyfle i fanteisio ar wybodaeth fanwl ac arbenigedd ein cyflwynwyr, yn cynnwys athrawon, swyddogion pwnc, arholwyr a chymedrolwyr.
Mae ein digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ymdrin ag amrywiaeth eang o destunau, fel:
-
Ymgyfarwyddo â manyleb newydd, deall y cynnwys a'i strwythur asesu.
-
Datblygu dealltwriaeth o asesiadau diweddar drwy adolygu deunyddiau enghreifftiol ac ymarfer marcio.
-
Caffael strategaethau addysgu a dysgu ymarferol.
-
Gwella eich dealltwriaeth o themâu, testunau a sgiliau pwnc.
-
Cyfoethogi eich cynllunio a'ch cronfa o adnoddau ystafell ddosbarth.
-
Rhannu arferion effeithiol a rhwydweithio â chydweithwyr ac arbenigwyr.
-
Bydd cynrychiolwyr yn cael pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau cwrs digidol hefyd.
Darganfyddwch gyfleoedd hyfforddi ar gyfer eich pwnc yma, a thanysgrifiwch i dderbyn y newyddion diweddaraf i gael gwybod am gyrsiau newydd sy'n cael eu hychwanegu drwy gydol y flwyddyn.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'n Tîm Dysgu Proffesiynol drwy anfon e-bost at dpp@cbac.co.uk.