Beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod yr arholiad?
Os ydych chi'n paratoi i sefyll eich arholiadau, mae yna rai pethau pwysig i'w cofio. Isod mae rhai cwestiynau cyffredin wedi'u hateb i'ch helpu i deimlo'n drefnus, yn barod ac yn hyderus ar ddiwrnod yr arholiad.
Faint o'r gloch ddylwn i gyrraedd?
Anelwch at gyrraedd o leiaf 15 munud cyn i'ch arholiad ddechrau. Ond, gwiriwch gyda'ch ysgol, coleg neu ganolfan arholi bob amser, oherwydd efallai bydd rhai yn gofyn i chi gyrraedd yn gynharach neu efallai byddan nhw'n rhoi amser cyrraedd penodol i chi.
Mae'r fantais o gyrraedd yn gynnar yn rhoi amser i chi setlo, paratoi'n feddyliol, ac osgoi straen diangen cyn i'r arholiad ddechrau. Efallai hoffech chi defnyddio'r amser hwn ar gyfer rhywfaint o adolygu munud olaf.
Pa bethau y galla i ddod â nhw i'r arholiad?
-
Eich deunydd ysgrifennu mewn cas pensil clir/tryloyw
-
Inc du neu feiro du (dewch ag un sbâr rhag ofn i un redeg allan).
-
Pensil a rwber, ar gyfer graffiau a diagramau yn unig
-
Cyfrifiannell, os oes angen un ar gyfer eich arholiad
-
Potel ddŵr blaen gyda labeli wedi'u tynnu
Pa bethau na alla i ddod â nhw i'r arholiad?
-
Dyfeisiau electronig gan gynnwys ffonau symudol neu watshys clyfar
-
Nodiadau neu ddeunyddiau adolygu
-
Bwyd neu ddiodydd (nad yw'n ddŵr clir)
-
Hylif cywiro fel 'Tipp-Ex' neu 'White Out' – os ydych chi'n gwneud camgymeriad, tynnwch linell daclus drwy'r gwaith
Beth sy'n digwydd pan fydda i’n mynd i mewn i'r neuadd arholiadau?
-
Dewch o hyd i'ch sedd wedi'i neilltuo
-
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n aros yn dawel ac nad ydych chi'n siarad â dysgwyr eraill unwaith y byddwch chi yn y neuadd. Efallai y byddwch chi'n wynebu cosb os ydych chi'n gwneud hyn
-
Peidiwch ag agor y papur arholiad nes bod yr amser yn dechrau, bydd eich goruchwyliwr yn dweud wrthych pryd y gallwch chi ddechrau
-
Cofiwch roi eich enw llawn ar flaen y papur lle mae gofyn i chi wneud hynny, a'ch rhif ymgeisydd. Dylech hefyd gynnwys rhif y ganolfan a fydd ar gael gan y goruchwylydd.
Beth os oes gennyf anghenion hygyrchedd?
Os oes gennych addasiadau rhesymol neu anghenion hygyrchedd, dylai eich ysgol/coleg gael gwybod am hyn cyn eich arholiad a dylen nhw fod wedi paratoi yn unol â hynny.
Gall anghenion hygyrchedd edrych fel:
-
Ystafell ar wahân neu ystafell lai
-
Offer fel gliniadur, darllenydd, troshaenau lliw
-
Amser ychwanegol
-
Ysgrifenyddion
Beth ddylwn i ei wneud ar ôl i mi orffen yr arholiad?
Hyd yn oed os byddwch chi'n gorffen eich arholiad yn gynnar, rhaid i chi aros yn eich sedd nes bod y goruchwyliwr yn dweud wrthych y gallwch adael y neuadd arholiadau.
Defnyddiwch unrhyw amser sy'n weddill i:
- Ddarllen drwy eich atebion yn ofalus
-
Edrych am unrhyw gamgymeriadau sillafu, atalnodi a gramadeg
-
Gwneud yn siŵr eich bod wedi ateb yr holl gwestiynau gofynnol
-
Cadarnhau bod eich enw, rhif ymgeisydd, a rhif y ganolfan wedi'u nodi'n gywir
Pan fydd yr arholiad yn gorffen, gwnewch yn siŵr eich bod yn aros yn dawel tra bod yr holl bapurau yn cael eu casglu ac arhoswch am gyfarwyddiadau cyn gadael yr ystafell.
Os nad ydych yn siŵr o unrhyw beth cyn yr arholiad, gofynnwch am arweiniad gan athro neu oruchwyliwr.
Am ragor o wybodaeth am beth gallwch chi ei ddisgwyl ar ddiwrnod yr arholiad, ewch i'n tudalen 'Camymddwyn'.