Asesiadau 2021: datganiad Cymwysterau Cymru

Asesiadau 2021: datganiad Cymwysterau Cymru

05/01/2021

Yn dilyn y cyhoeddiad a ddaeth gan Lywodraeth y DU ddoe ynghylch canslo'r arholiadau TGAU a Safon Uwch yn Lloegr, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ddatganiad mewn ymateb heddiw.

Yn y cyhoeddiad, mae Cymwysterau Cymru wedi sicrhau dysgwyr ac athrawon yng Nghymru y bydd 'yn parhau i fonitro'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer asesu cymwysterau yn 2021 yn sgil unrhyw newidiadau polisi sy'n digwydd ar hyn o bryd ynghylch agor ysgolion a cholegau.'

Yn CBAC, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni Llywodraeth Cymru, ac ar y cyd â'r gymuned addysg ehangach, er mwyn sicrhau y bydd pob cyfle ar gael i ddysgwyr Cymru i ddangos yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud yn 2021.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth ar lefel uchel ar ein Gwefan Ddiogel ynghylch strwythurau cymwysterau.

Cyhoeddir gwybodaeth a diweddariadau pellach ar ein tudalennau gwe Haf 2021 ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hwn yn gyfnod heriol ac rydym yn hynod werthfawrogol i chi am barhau i ddeall y sefyllfa.