Ian Morgan - Prif Weithredwr, CBAC

Arholiadau Haf: diolch yn fawr am eich cefnogaeth

Gyda gwyliau'r haf ychydig wythnosau i ffwrdd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi a'ch cydweithwyr am eich holl waith caled a'ch cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae dychwelyd i arholiadau wedi bod yn dasg enfawr i ysgolion a cholegau ar draws y wlad, ac rydw i'n gwerthfawrogi'r proffesiynoldeb y mae'r gymuned addysg gyfan wedi'i ddangos er mwyn sicrhau darpariaeth effeithiol yr haf hwn.  

Bu'n rhaid wynebu heriau ar hyd y ffordd, ond mae pethau y gallwn ddysgu o bob cyfres arholiadau. Rydw i eisoes wedi cydnabod ac ymddiheuro'n gyhoeddus am unrhyw broblemau yr oedden ni'n gyfrifol amdanyn nhw ac am unrhyw effaith ar ddysgwyr. Byddwn yn parhau i ddysgu fel corff yn ôl yr arfer. 

Wrth i ni droi ein sylw at farcio sgriptiau eich dysgwyr, rydym yn falch o'n record o ddarparu canlyniadau manwl gywir, ac eleni mae ein harholwyr i gyd wedi dilyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn ystyried yr addasiadau. Wrth gwrs, fel sy'n wir am unrhyw gyfres arholiadau, byddwn yn cynnal cyfres o wiriadau sicrhau ansawdd er mwyn bodloni'r safonau uchel sy'n ddisgwyliedig gennym.  

Yna bydd ein timau o arbenigwyr yn canolbwyntio ar y broses ddyfarnu ac yn pennu ffiniau graddau ar gyfer pob cymhwyster. Bydd angen i ni roi cyfarwyddeb polisi Cymwysterau Cymru ar waith i wneud yn siŵr bod y graddau yr haf hwn yn fwy hael na blwyddyn arferol.  

Drwy weithio gyda'n canllawiau, rydym yn hyderus y bydd eich dysgwyr yn derbyn canlyniadau teg yr haf hwn, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eu graddau'n cyfateb i'w gwaith caled ac yn eu galluogi i symud ymlaen.  

Rydym wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd, ac mae wedi bod yn wych cwrdd â Phenaethiaid a chynrychiolwyr allweddol o ysgolion a cholegau ar draws Cymru er mwyn gweld drosof fy hun sut roedd arholiadau’n cael eu hailgyflwyno. Cefais fy mhlesio'n fawr gan yr ymroddiad a ddangosodd cydweithwyr addysgu a'r adborth gonest a roddwyd gan ddysgwyr.  

Gan edrych y tu hwnt i'r asesiadau, mae'n bleser gennyf gadarnhau bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran datblygu Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae'r fanyleb ddrafft ar gael ar ein gwefan erbyn hyn, ac mae'n rhoi syniad pendant o strwythur a chynnwys y cymhwyster. Mae gwaith eisoes ar y gweill i gyhoeddi ei gymeradwyaeth gan Cymwysterau Cymru, ynghyd â llu o weithgareddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymhwyster newydd cyffrous hwn gan gynnwys cyrsiau dysgu proffesiynol rhyngweithiol ac adnoddau digidol wedi'u teilwra. 

Ar ben hynny, bydd canolfannau yng Nghymru yn cyflwyno ein Cymwysterau Galwedigaethol Lefel 1/2 newydd o fis Medi ymlaen. Bydd ein timau pwnc wrth law i roi cyngor ac arweiniad, ac mae adnoddau'n cael eu datblygu i gynorthwyo'r broses o'u darparu 

Am y tro, dymunaf y gorau i chi am weddill y tymor a gobeithio y byddwch yn ymlacio dros wyliau'r haf.  

Ian