Arbenigwyr ffilm blaenllaw yn siaradwyr gwadd yn ein seremoni wobrwyo fawreddog
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enwau'r siaradwyr gwadd fydd yn ymuno â ni yn y 9fed Gwobrau Delwedd Symudol. Mae'r seremoni wedi'i chydnabod gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm.
Dyma oedd gan Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC Eduqas, i'w ddweud am y cyhoeddiad: "Mae'n fraint cael arbenigwyr ffilm blaenllaw yn rhan o'n seremoni wobrwyo. Bydd eu talent a'u profiad helaeth yn ysbrydoli'r sawl fydd yn bresennol, ac rwy'n siŵr y byddant hwythau hefyd wrth eu bodd â safon y dalent fydd yn cael ei harddangos yn ystod y digwyddiad."
Cynhelir ein digwyddiad blynyddol yn y British Film Institute yn Llundain ddydd Gwener, 24 Chwefror.
Dyma'r rhestr arbennig o arbenigwyr ffilm benywaidd fydd yn ymuno â ni:
![]() |
Anna Smith |
![]() |
Faye Ward Faye Ward yw Cyfarwyddwr Creadigol a Sylfaenydd Fable Pictures. Cyn sefydlu Fable, roedd Faye hefyd yn rhan o dîm cynhyrchu cyfres Left Bank Pictures, THE CROWN, sydd wedi ennill sawl gwobr.
|
![]() |
Kate Leys Golygydd sgriptiau a straeon yw Kate Leys. Ers blynyddoedd lawer, mae hi wedi gweithio ar brif ffilmiau, ffilmiau byrion a chyfresi teledu ledled y byd. Mae hi hefyd yn gweithio ar raglenni dogfen, animeiddiadau, podlediadau a theatr. Mae hi'n gweithio ar draws y byd: mewn un diwrnod yn unig y llynedd fe weithiodd hi gyda gwneuthurwyr ffilmiau yn Vienna, Beirut, Tbilisi a Maputo; ac mae hi wedi gweithio gyda gwneuthurwyr ffilmiau brodorol, yn y Cylch Arctig yn arbennig, ers sawl blwyddyn. Rhai o'r ffilmiau mae hi wedi gweithio arnyn nhw'n ddiweddar yw BIRCHANGER GREEN (yn cael ei ôl-olygu, y DU); THE UNBORN BIRO (ffilm fer, Sundance 2023) a JEVIDA (enillydd y ffilm orau yng Ngŵyl Ffilmiau Helsinki 2022).
|
![]() |
Larushka Ivan-Zadeh Ers 15 mlynedd a mwy, mae Larushka Ivan-Zadeh wedi bod yn Brif Feirniad Ffilm ym Metro, sef papur newydd mwyaf cylchredol y DU. Larushka hefyd yw beirniad Times Radio a The Lady Magazine ac mae hi'n darlledu'n rheolaidd ar draws y BBC.
|
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i weld enillwyr y gorffennol, ewch i'n tudalen we Gwobrau Delwedd Symudol.
Byddwch yn rhan o'r sgwrs ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #GwobrauDelweddSymudol2023
Twitter: @cbac_wjec
Instagram: @cbacifyfyrwyr



