Adnabod eich cymhwyster Ton 3 – Cyflwyno ein 'Canllawiau Cyflym'
Wrth i ni barhau i arwain y ffordd yn sgil diwygio cymwysterau – y corff dyfarnu cyntaf â sawl cymhwyster wedi'i gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru yn rhan o Don 3 y cymwysterau Cenedlaethol 14-16 – mae ein timau pynciau wedi datblygu 'Canllawiau Cyflym' ar gyfer pob cymhwyster i ddarparu trosolwg clir a hygyrch o'r cymwysterau newydd a chyffrous hyn.
|
|
Wrth sôn am lansiad y canllawiau, dywedodd Sophie Dobbs, Cynrychiolydd Rhanbarthol: "Rydyn ni'n hynod falch bod sawl un o'n cymwysterau Ton 3 wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru erbyn hyn ac rydyn ni'n edrych ymlaen i gyhoeddi'r manylebau llawn fis Medi. Rydyn ni'n deall bod canolfannau'n awyddus i ddysgu mwy am y cymwysterau hyn. Mae ein 'Canllawiau Cyflym' yn darparu'r cyflwyniad perffaith, gan amlinellu nodweddion allweddol pob cymhwyster, gan gynnwys y strwythur a'r dulliau asesu." |
Mae'r 'Canllawiau Cyflym' ar gael ar gyfer y Project Personol a'r Gyfres Sgiliau, Cymwysterau TAAU, Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol (CSC) a Chymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith. I weld eich 'Canllaw Cyflym' ewch ar y dudalen we isod.
Canllawiau unigol i'ch cefnogi chi
Oherwydd gofynion y rheoleiddiwr, ni ellir cyhoeddi 'r manylebau cymeradwy tan fis Medi. Yn y cyfamser, mae ein 'Canllawiau Cyflym' unigol yn amlinellu:
- Pwrpas a throsolwg o'r cymhwyster
- Strwythur y cymhwyster
- Proffil y dysgwr targed
- Dull Asesu
Gellir defnyddio'r canllawiau hyn ochr yn ochr â'r manylebau drafft, fydd yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Noder ar gyfer y cymwysterau nad ydynt wedi'u cymeradwyo eto, mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y 'Canllawiau Cyflym' yn parhau i fod yn amodol ar gymeradwyaeth y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru.
Cefnogaeth ychwanegol ar eich stepen drws
Yn ogystal i'n 'Canllawiau Cyflym', mae Sophie Dobbs, ein Cynrychiolydd Rhanbarthol ar gael i gefnogi eich canolfan wrth ddysgu mwy am y cymwysterau hyn.
Mae sesiynau ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan ddarparu trosolwg manwl o'r gyfres newydd o gymwysterau a chyfle i drafod sut gellir eu hymgorffori o fewn eich cwricwlwm.
I ddysgu mwy neu i gadw lle mewn sesiwn, cysylltwch: ton3@cbac.co.uk
Cefnogaeth sydd i ddod
Byddwn yn cyhoeddi pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth sy'n rhad ac am ddim yn fuan i gynorthwyo â'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, gan gynnwys:
- Adnoddau digidol o safon
- Cyfleoedd dysgu proffesiynol
Bydd manylion pellach yn cael eu rhannu'n fuan.
Cymwysterau wedi'u cymeradwyo
Mae Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo'r cymwysterau canlynol i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen:
Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2 Project Personol
- Project Personol
Lefel 1 / 2 TAAU
- Amgylchedd Adeiledig
- Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Teithio a Thwristiaeth
Lefel Mynediad / Lefel 1 Sylfaen
- Cymraeg Craidd
- Cymraeg
- Dylunio a Thechnoleg
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Gwybodaeth bellach
I gael gwybod mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 ewch i'r ardal bwrpasol ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk
