5 rheswm dros lawrlwytho eich Adroddiad Uwch Arholwr
![]() |
O dymor yr Hydref, mae athrawon yng Nghymru yn cael mynediad am ddim i adroddiadau'r Uwch Arholwyr ar gyfer eu pynciau. Ond beth yn union yw Adroddiad yr Uwch Arholwr, a pham maen nhw'n ddefnyddiol? Dyma esboniad Nia Jones, Rheolwr Datblygu Dysgu Proffesiynol CBAC. |
Caiff Adroddiadau Arholwyr eu hysgrifennu gan ein Huwch Arholwyr a Chymedrolwyr ar ôl iddynt orffen marcio cyfres asesu'r haf a chrynhoi sut y gwnaeth ymgeiswyr berfformio.
Maent yn adnodd gwerthfawr a all fod o gymorth i chi a'ch dysgwyr ar y ffordd tuag at ganlyniadau gwell yn y dyfodol. Dyma rai o'r ffyrdd y gallech elwa ar lawrlwytho adroddiad Uwch Arholwr eich pwnc:
1. Meithrin gwell dealltwriaeth o'r hyn oedd yn cael ei asesu, a sut ymatebodd dysgwyr.
Mae Adroddiadau yr Uwch Arholwyr yn edrych yn fanwl ar bob adran unigol o'r asesiad, fel y gallwch weld yn union pa sgiliau a gwybodaeth oedd yn cael eu gwerthuso. Maent hefyd yn tynnu sylw at dueddiadau mewn ymatebion ymgeiswyr, a lle y bo'n berthnasol, yn cymharu perfformiad â chyfresi asesu blaenorol.
2. Adnabod camgymeriadau posibl ar gyfer ymgeiswyr asesu'r flwyddyn nesaf
Mae ein Hadroddiadau Arholwyr yn tynnu sylw at ble roedd dysgwyr yn cael trafferth mewn asesiadau diweddar - er enghraifft, os oedd cwestiynau nad oedd yn ymddangos eu bod yn cael eu darllen yn llawn, neu feysydd gwybodaeth lle roedd yn ymddangos nad oedd ymgeiswyr wedi paratoi'n ddigonol.
Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i lywio'ch addysgu ar gyfer ymgeiswyr y flwyddyn nesaf, gan gryfhau eu sgiliau a'u gwybodaeth yn y meysydd hyn.
3. Paratoi ar gyfer taith Dysgu Proffesiynol eleni
Os ydych chi am roi hwb i'ch sgiliau a'ch gwybodaeth fel athro eleni, mae Adroddiadau yr Uwch Arholwyr yn gam cyntaf gwych.
Maent yn arwain yn naturiol i'n digwyddiadau Adborth Asesu Ar-lein rhad ac am ddim. Mae'r rhain yn gymysgedd o weminarau byw a sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw sy'n edrych ar sut ymatebodd ymgeiswyr mewn mwy o fanylder, gan gynnwys enghreifftiau o bapurau wedi'u marcio.
> Defnyddiwch ein adnodd chwilio i ddod o hyd i gyfleoedd Adborth Asesu ar gyfer eich cymhwyster.
4. Darganfyddwch adnoddau digidol newydd i'ch dysgwyr
Mae Adroddiadau’r Uwch Arholwyr yn cynnwys cysylltau i amrediad eang o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys ble i gael mynediad i'n hadnoddau digidol.
Bydd adroddiadau ar gyfer pynciau dethol yn cynnwys crynodeb gweithredol sy'n tynnu sylw at feysydd i'w gwella a pha adnoddau all helpu.
5. Cael adnodd adolygu newydd i ddysgwyr
Yn ogystal â bod yn ddefnyddiol i athrawon, rydym yn argymell eich bod yn rhannu adroddiadau arholwyr, neu rannau ohonynt, yn uniongyrchol gyda'ch dysgwyr. Gallant fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer adolygu a pharatoi at arholiadau, ochr yn ochr â'n hadnoddau digidol.
Dim ond un rhan o'n pecyn Adborth Asesu ar gyfer 2023-24 yw ein hadroddiadau Arholwyr, ynghyd â mynediad rhad ac ddim i sgriptiau a mwy. Darganfyddwch beth arall sydd ar gael.
