TGAU Hanes - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Hanes yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
  • feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • casglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth
  • dod i gasgliadau gwybodus ond ar yr un pryd deall y gall rhai o'r casgliadau fod yn rhannol neu'n amhendant ac y gellir eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd
  • adolygu'n feirniadol y ffyrdd mae'r digwyddiadau a'r profiadau hyn yn cael eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli
  • dysgu sut gall amrywiol fydolygon a ffactorau ddylanwadu ar eu canfyddiadau a dehongliadau nhw eu hunain a rhai pobl eraill’, gan archwilio sut a pham gall dehongliadau fod yn wahanol
  • datblygu gwerthfawrogiad o hunaniaeth, treftadaeth a chynefin, gan gynnwys hanes Cymru a'r Byd
  • datblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, blwraliaethol ac amrywiol cymdeithasau, ddoe a heddiw, yn benodol straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • datblygu dealltwriaeth o achosion, canlyniadau ac arwyddocâd y newidiadau a’r rhyng-berthnasau sydd wedi ffurfio cymdeithasau ar wahanol lefelau o ddatblygiad
  • deall sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn ardal leol y dysgwyr ac yng Nghymru ac yn fyd-eang yn ogystal.
  • archwilio’r cysylltiadau a’r rhyng-ddibyniaethau rhwng y cymdeithasau hyn, yn y gorffennol a’r presennol, yng nghyd-destun globaleiddio byd-eang
  • deall natur ryng-gysylltiedig cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; cyfiawnder ac awdurdod; a’r angen i fyw mewn cymdeithas decach a mwy cynhwysol sy’n wynebu hiliaeth ac yn mynd i’r afael â’r broblem
  • myfyrio'n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain a rhai pobl eraill
  • ystyried effaith eu gweithredoedd wrth wneud eu dewisiadau ac arfer eu hawliau a chyfrifoldebau democrataidd
  • cyfiawnhau eu penderfyniadau.

Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:

  • ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
  • dod o hyd i wybodaeth addas, gwneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a ffurfio barn ynghylch dibynadwyedd a defnyddioldeb
  • ymgysylltu â gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol cynyddol eang a dwfn er mwyn meithrin dealltwriaeth gynyddol glir a chydlynol o'r byd o'u cwmpas
  • gweithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson neu sy'n gwrthdaro
  • trosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau sy'n newydd ac yn gynyddol anghyfarwydd, gan ffurfio cysylltiadau o fewn cyfnodau a lleoedd a rhyngddyn nhw, gan nodi tebygrwyddau a gwahaniaethau, newid a pharhad
  • nodi cysylltiadau rhwng dysgu presennol a dysgu blaenorol. Drwy ddatblygu mwy ddealltwriaeth o'r byd, o bobl eraill ac o'r gwerthoedd sydd ganddyn nhw, mewn amseroedd, lleoedd ac amgylchiadau gwahanol.

 

Mae'r cymhwyster TGAU Hanes yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwnc-benodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Hanes. Bydd y cymhwyster yn:

  • cynnig cyfleoedd i ddeall cyfnodau, digwyddiadau, pobl a diwylliannau gwahanol mewn hanes, gan eu harchwilio ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang
  • cynnig cyfleoedd i ddeall arwyddocâd pobl, digwyddiadau a datblygiadau mewn hanes a sut mae'n bosibl dehongli'r rhain mewn ffyrdd gwahanol: mewn gwahanol leoedd ac ar amseroedd gwahanol
  • darparu sgiliau i'r dysgwyr i ddeall, dehongli a gwerthuso tystiolaeth hanesyddol er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol i ffurfio barn
  • darparu sgiliau i'r dysgwyr i allu gwneud synnwyr o'u lle nhw eu hunain a lle pobl eraill o fewn fframwaith profiad dynol
  • cynnig cyfleoedd i ddatblygu chwilfrydedd ac empathi a hefyd y gallu i hidlo a dadansoddi'n feirniadol yr holl wybodaeth sydd ar gael i ni, ffurfio barn sy'n wybodus ac yn gytbwys gan feithrin ymdeimlad o gynefin a'r lle sydd gan bawb yn y byd.

 

Bydd y cymhwyster TGAU Hanes yn seiliedig hefyd ar y cysyniadau hanesyddol canlynol sydd wedi'u rhestru yn y Meini Prawf Cymeradwyo:

  • parhad a newid
  • tebygrwydd a gwahaniaeth
  • arwyddocâd ac effaith
  • achos a chanlyniad

 

Mae pob un o'r cysyniadau hyn yn ategu canllawiau 'Dylunio eich cwricwlwm' Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a chamau cynnydd y Dyniaethau.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Paula Morgan
Oes gennych chi gwestiwn?
Paula Morgan ydw i
phone_outline 029 2240 4278
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Niamh Doherty
phone_outline 029 2240 4278
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Paula Morgan
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol