TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol - Dysgu o 2026
                            Dysgu: Medi 2026
                        
                        
                        
                                Codau Cyfeirio
    
    
                        
                Bydd y cymhwyster TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr: 
- fynd i’r afael â genres, technegau, offer, deunyddiau a dulliau sy'n eu galluogi i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
 - dod i ddeall y ffordd y mae’r celfyddydau mynegiannol yn cyfathrebu drwy ddulliau gweledol, corfforol, geiriol, cerddorol a thechnolegol
 - meithrin eu dychymyg a thynnu ar eu profiadau, eu sgiliau a’u doniau er mwyn iddyn nhw ddod yn artistiaid creadigol eu hunain
 - edrych ar waith o ddiwylliannau a chymdeithasau amrywiol, gan ddysgu am eu dylanwadau, eu hanesion a'u heffaith
 - ystyried gwaith creadigol mewn amrywiaeth o gyfryngau, ffurfiau, genres ac arddulliau
 - dysgu sgiliau dadansoddi pwysig o fireinio a dadansoddi
 - adfyfyrio ar effeithiolrwydd eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, gan gynnwys gwaith artistiaid amrywiol o Gymru a thu hwnt
 - bod yn arloesol a beiddgar, a chreu gwaith unigol
 - cyfathrebu drwy amrywiaeth o ffurfiau a chyfryngau digidol
 
 - Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i: 
- archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb i ystyr sy'n gynyddol gymhleth
 - datblygu dysgu cysyniadol sy'n gynyddol soffistigedig
 - datblygu defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destun newydd.
 
 - Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer y Ffilm a Chyfryngau Digidol drwy roi cyfle i ddysgwyr ystyried: 
- Agweddau ar gyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, gan gynnwys golygu, sinematograffi; sain, dylunio cynhyrchiad (gan gynnwys mise-en-scène), naratif, arddull, genre.
 - Cynhyrchion a ffurfiau: ffilm, teledu, sain (podledu a radio digidol), gemau fideo, gwefannau.
 - Dosbarthu ac arddangos: llwyfannau ar-lein (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau ffrydio), sinema, teledu digidol, llwyfannau gemau fideo.
 - Cynhyrchwyr a chynulleidfaoedd, gan gynnwys defnyddwyr, ‘cynhyrchwyr ddefnyddwyr’, gwylwyr, crëwyr cynnwys.
 - Negeseuon, moeseg a materion: cynrychioli pobl, hunaniaethau, lleoedd a chymdeithas, rhaniad digidol, materion cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys preifatrwydd, tuedd a chamwybodaeth).
 
 
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn datblygu adnoddau i gefnogi'r testunau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymhwyster Gwneud-i-Gymru Newydd hwn. Mae'r rhestr o adnoddau a fydd ar gael ar gyfer y pwnc hwn isod.
| Uned 1 | Patagonia a Persepolis | 
| Pride a Girlhood | |
| Dream Horse a Wadjda | |
| Save the Cinema a The Breadwinner | |
| Y Sŵn a The Farewell | |
| Chwarae gemau fideo | |
| Archwilio cysyniadau a materion allweddol mewn newyddion ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasol | |
| Uned 2 | Ymchwilio i gwmnïau cynhyrchu sydd wedi'u lleoli yng Nghymru | 
    
             Oes gennych chi gwestiwn?
        
        
                Swyddog Pwnc
            
            
                Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
            
    
            Swyddog Cefnogaeth Pwnc
        
    
        Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
    
        
            
            Sara Evans
        
            
                
                02922 404 308