TGAU Drama - Dysgu o 2025
Dysgu Proffesiynol
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio
Mae'r cymhwyster TGAU Drama yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwnc-benodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol.
Bydd y cymhwyster:
- drwy'r broses greadigol, yn caniatáu i ddysgwyr archwilio, ymateb i ysgogiadau a chreu a myfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys.
Mae'r cysyniadau canlynol ar gyfer y cymhwyster TGAU Drama yn seiliedig ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol:
- mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol yn hanfodol er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth artistig, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
- mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol
- mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg
Bydd y cymhwyster TGAU Drama yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi’r egwyddorion cynnydd
- annog dysgwyr i archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb i ystyr sy'n gynyddol gymhleth,
- datblygu dysgu cysyniadol sy'n gynyddol soffistigedig,
- defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destun newydd.
- Cefnogi'r ystyriaethau penodol ar gyfer y maes hwn drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- archwilio, ymateb i ysgogiadau a chreu a myfyrio ar eu gwaith eu hunain gan gyflawni profiadau cyfoethog a dilys ar yr un pryd.
- meithrin dealltwriaeth o actio, cyfarwyddo, dylunio, theatr dechnegol a gweinyddu'r celfyddydau.
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Abbie Tsim
029 2240 4299
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Steve Patten
029 2240 4299
