TGAU Cymraeg Craidd - Dysgu o 2025
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Mae lluniad cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd yn seiliedig ar ystyriaethau pwnc penodol Llywodraeth Cymru a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu:
- deall y byd o'n hamgylch
- mwynhau'r Gymraeg a gweld gwerth i'r iaith honno y tu allan i'r ystafell ddosbarth
- defnyddio iaith sy'n gysylltiedig â diddordebau
- datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasu ac yn y gweithle
- amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr glywed, gweld a darllen deunydd sy'n gyfoethog ac amrywiol yn yr iaith Gymraeg
- meithrin sgiliau ieithyddol er mwyn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus.
Bydd y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig , gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- ddatblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
- rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth ac adeiladu perthnasoedd
- profi ac ymateb i amrywiaeth o weithiau llenyddol amrywiol sy'n rhoi mewnwelediad iddyn nhw o ddiwylliant, pobl a hanes Cymru a hefyd y byd ehangach
- sbarduno eu dychymyg a'u creadigrwydd.
- Cefnogi egwyddorion dilyniant drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
- tyfu mewn ffordd gyfannol o ran sut maen nhw'n deall ac yn gallu gwneud defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- datblygu eu repertoire ieithyddol drwy ddeall sut mae'r Gymraeg yn gweithio
- addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
- meithrin sgiliau iaith derbyn, dehongli a mynegi
- trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddyn nhw'n barod i gyd-destunau newydd gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol ar iaith.
- Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygu ieithoedd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
- adeiladu ar wybodaeth flaenorol dysgwyr o iaith (ieithouedd) i gefnogi dysgu'r Gymraeg
- glywed, gweld, a darllen Cymraeg cyfoethog ac amrywiol
- darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffordd bwrpasol ac mewn cyd-destun dilys.
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >
Tach
Rhag
Chw