TGAU Cerddoriaeth - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae'r cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwnc-benodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol. Bydd y cymhwyster:

  • drwy'r broses greadigol, yn caniatáu i ddysgwyr archwilio, ymateb i ysgogiadau a chreu a myfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys.

 

Mae'r cysyniadau canlynol ar gyfer y cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn seiliedig ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol:

  • mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
  • mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol
  • mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

 

Bydd y cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy gefnogi'r egwyddorion cynnydd:

  • annog dysgwyr i archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb i ystyr sy'n gynyddol gymhleth
  • datblygu dysgu cysyniadol sy'n gynyddol soffistigedig
  • defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
photo of Rachel Edwards
Oes gennych chi gwestiwn?
Rachel Edwards ydw i
phone_outline 029 2240 4300
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Natalie Harvey
phone_outline 029 2240 4300
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Rachel Edwards
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol