TGAU Celf a Dylunio - Dysgu o 2025
Dysgu Proffesiynol
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Celf a Dylunio yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr
- ddatblygu sgiliau a gwybodaeth artistig
- ymateb a myfyrio fel artist ac fel cynulleidfa
- datblygu eu hunaniaeth artistig eu hunain drwy arloesi a bod yn feiddgar
- Cefnogi egwyddorion dilyniant drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- gysylltu â'r broses greadigol wrth archwilio ac arloesi
- creu gwaith mwy soffistigedig
- mireinio sgiliau a thechnegau
- magu hyder a gwydnwch wrth roi a derbyn adborth
- Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer Celf a Dylunio drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- arbrofi a datblygu gwaith drwy amrywiaeth o adnoddau, defnyddiau, technegau a phrosesau
- llunio amrywiaeth o ganlyniadau a dangos ymateb personol a chreadigol.
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.