TGAU Busnes - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Busnes yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
    • helpu dysgwyr i gasglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth
    • archwilio sut a pham y gall dehongliadau wahaniaethu, ac wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a ffyrdd o gyfleu, elfennau a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth
    • deall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru, yn ogystal ag yn fyd-eang
    • deall, fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, eu heffaith eu hunain ar y byd naturiol
    • meithrin eu hunaniaeth eu hunain ac ymwybyddiaeth o sut y gallan nhw, fel unigolion, siapio'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw
    • dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o'r modd y mae'r gweithredoedd hyn yn dylanwadu ar gynaliadwyedd ein byd yn y dyfodol a'r newid yn yr hinsawdd
    • gwerthfawrogi sut mae esblygiad lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl
    • meithrin dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a'r byd rhyng-gysylltiedig ehangach
    • annog dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol sy'n myfyrio'n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain ac eraill.
  • Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
    • ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
    • dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a dod i gasgliadau
    • cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol
    • meithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd
    • dangos eu bod yn gallu gweithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson
    • dangos gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd a chynyddol anghyfarwydd.
  • Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer Busnes drwy:
    • feithrin dealltwriaeth o fusnes a'i werth i unigolion, i'r gymdeithas ac i economi Cymru, yr economi genedlaethol a'r economi fyd-eang
    • galluogi dysgwyr i werthfawrogi bod yr amgylchedd lle mae busnes yn digwydd yn newid yn gyson
    • gwerthfawrogi effaith busnes ar fywydau pobl ac ar yr amgylchedd
    • archwilio ffyrdd y mae busnesau'n llwyddo neu'n methu a'r strategaethau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant
    • meithrin dealltwriaeth o gyfraniad busnes wrth lywio ffyniant cymunedau ac felly yn llywio disgwyliadau pobl ar gyfer y dyfodol
    • archwilio sut mae busnes yn cael ei greu drwy fenter ac entrepreneuriaeth
    • meithrin sgiliau i rymuso gallu busnes i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau.

Bydd y cymhwyster TGAU Busnes yn seiliedig hefyd ar y cysyniadau a ganlyn:

  • busnes a'r gymdeithas
  • hanfodion busnes
  • strategaethau busnes ar gyfer llwyddo
  • newid
  • cynefin
  • economïau
  • ymholiad ac ymchwiliad
  • menter / entrepreneuriaeth
  • moesau
  • arloesi
  • cyfleoedd a heriau
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Stephen Oliver
Oes gennych chi gwestiwn?
Stephen Oliver ydw i
phone_outline 029 2240 4257
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Clare Williams
phone_outline 029 2240 4257
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Stephen Oliver
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol