TGAU Busnes - Dysgu o 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Mae tasg uned 2 yn cael ei hasesu'n allanol. Rhaid uwchlwytho gwaith gorffenedig yr ymgeiswyr ar Surpass erbyn y terfyn amser terfynol, sef 5 Mai. Mae canllawiau ar sut i uwchlwytho gwaith i'w gweld yn y Canllaw Pynciau Surpass. Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach neu broblemau ynghylch uwchlwytho, cael mynediad at gyfrif neu godau allwedd, cysylltwch â'r tîm E-Asesu ar 029 2026 5328 neu e-asesu@cbac.co.uk.
Bydd y cymhwyster TGAU Busnes yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
- helpu dysgwyr i gasglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth
- archwilio sut a pham y gall dehongliadau wahaniaethu, ac wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a ffyrdd o gyfleu, elfennau a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth
- deall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru, yn ogystal ag yn fyd-eang
- deall, fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, eu heffaith eu hunain ar y byd naturiol
- meithrin eu hunaniaeth eu hunain ac ymwybyddiaeth o sut y gallan nhw, fel unigolion, siapio'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw
- dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o'r modd y mae'r gweithredoedd hyn yn dylanwadu ar gynaliadwyedd ein byd yn y dyfodol a'r newid yn yr hinsawdd
- gwerthfawrogi sut mae esblygiad lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl
- meithrin dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a'r byd rhyng-gysylltiedig ehangach
- annog dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol sy'n myfyrio'n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain ac eraill.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
- dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a dod i gasgliadau
- cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol
- meithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd
- dangos eu bod yn gallu gweithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson
- dangos gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd a chynyddol anghyfarwydd.
- Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer Busnes drwy:
- feithrin dealltwriaeth o fusnes a'i werth i unigolion, i'r gymdeithas ac i economi Cymru, yr economi genedlaethol a'r economi fyd-eang
- galluogi dysgwyr i werthfawrogi bod yr amgylchedd lle mae busnes yn digwydd yn newid yn gyson
- gwerthfawrogi effaith busnes ar fywydau pobl ac ar yr amgylchedd
- archwilio ffyrdd y mae busnesau'n llwyddo neu'n methu a'r strategaethau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant
- meithrin dealltwriaeth o gyfraniad busnes wrth lywio ffyniant cymunedau ac felly yn llywio disgwyliadau pobl ar gyfer y dyfodol
- archwilio sut mae busnes yn cael ei greu drwy fenter ac entrepreneuriaeth
- meithrin sgiliau i rymuso gallu busnes i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau.
Bydd y cymhwyster TGAU Busnes yn seiliedig hefyd ar y cysyniadau a ganlyn:
- busnes a'r gymdeithas
- hanfodion busnes
- strategaethau busnes ar gyfer llwyddo
- newid
- cynefin
- economïau
- ymholiad ac ymchwiliad
- menter / entrepreneuriaeth
- moesau
- arloesi
- cyfleoedd a heriau
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Mai
Awst
