TGAU Daearyddiaeth - Dysgu o 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Eisiau benthyg offer mesur tywydd o ansawdd uchel am ddim? Dysgwch am gynllun Benthyg Offeryn y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol yma.
Mae dyddiadau cyflwyno yr asesiadau di-arholiad (ADA) ar gyfer y fanyleb newydd bellach wedi eu cadarnhau. Bydd Uned 2 ar 5ed Chwefror (trwy Surpass) a bydd Uned 4 ar 5ed Mai (trwy IAMIS), y ddau yn y flwyddyn y bydd yr Uned yn cael ei dyfarnu. Bydd llawlyfrau ADA wedi'u diweddaru ar gyfer Unedau 2 a 4 yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
TGAU Daearyddiaeth Gwneud-i-Gymru uned 2, Datblygu Sgiliau Gwaith Maes. Bydd yr uned ar gael i ganolfannau o fis Medi 2025 ymlaen.
Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno'r uned hon yw 5 Chwefror 2026.
Er mwyn cynorthwyo canolfannau i gwblhau'r gwaith cyflwyno a'r prosesau dyrannu a marcio yn gynharach, bydd yn ofynnol i ganolfannau gofrestru ar gyfer yr uned hon yn ddim hwyrach na 1 Rhagfyr, ar gyfer y flwyddyn academaidd lle mae dysgwyr yn sefyll yr uned.
Bydd y cymhwyster TGAU Daearyddiaeth yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang
- bod o gymorth i ddysgwyr gasglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth
- archwilio sut a pham y gall dehongliadau wahaniaethu, ac wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a ffyrdd o gyfleu elfennau a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth
- profi rhyfeddod y byd naturiol
- deall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn fyd-eang
- datblygu dealltwriaeth o sut y gall gweithredoedd dynol yn y gorffennol a’r presennol effeithio ar y berthynas rhwng y byd naturiol a phobl
- dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o’r modd y mae’r gweithredoedd hyn yn dylanwadu ar gynaliadwyedd ein byd yn y dyfodol a’r newid yn yr hinsawdd
- gwerthfawrogi sut mae esblygiad lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl
- meithrin dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a'r byd rhyng-gysylltiedig ehangach.
- annog dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus, moesegol sy'n myfyrio'n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain ac eraill
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
- dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a gwneud penderfyniadau
- cynyddu eu gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol eang a dwfn
- meithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd
- dangos y gallu i weithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson neu sy'n gwrthdaro
- dangos gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau sy'n newydd ac yn gynyddol anghyfarwydd.
- Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer Daearyddiaeth drwy:
- gynnig cyfleoedd i ddeall ac ymchwilio tirweddau ffisegol a dynol, a chyd-destun ar gyfer achosion a chanlyniadau rhyngberthnasoedd a rhyngddibyniaeth ffisegol a dynol sy’n nodweddu ein byd modern
- cynnig cyfleoedd i ddeall ac ymchwilio materion daearyddol allweddol
- darparu sgiliau i’r dysgwyr gwestiynu, defnyddio a dadansoddi mapiau, delweddau a systemau gwybodaeth ddaearyddol
- darparu sgiliau daearyddol i’r dysgwyr ffurfio cwestiynau ymchwil, ac i gasglu, trin a chyflwyno data fel eu bod yn gallu gwerthuso a meddwl yn feirniadol am broblemau a materion
- darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored, drwy gyfrwng gwaith maes a'r ystafell ddosbarth yn yr awyr agored, ac i brofi a myfyrio ar ryfeddod y byd naturiol mewn amrywiaeth o amgylcheddau ffisegol, dynol a hanesyddol.
Bydd y cymhwyster TGAU Daearyddiaeth yn seiliedig ar y cysyniadau daearyddol canlynol hefyd sydd wedi'u rhestru yn adran 6.1 o'r Meini Prawf Cymeradwyo cyhoeddedig:
- lle a gofod
- graddfa
- proses
- parhad a newid
- rhyngberthnasoedd
- amrywiaeth
- amgylchedd
Mae pob un o'r cysyniadau hyn wedi'i fapio i'r cysyniadau a nodwyd yng nghanllawiau 'dylunio eich cwricwlwm' Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a chamau cynnydd y Dyniaethau. Maen nhw wedi'u mapio hefyd i gysyniadau'r Gymdeithas Ddaearyddol.
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >
