Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Cyfathrebu Busnes Byd-eang Sbaeneg
Mae arholiadau ffug ar-lein ar gael ar gyfer pob canolfan sy'n bwriadu cofrestru ar gyfer Uned 4 GBC yn 2025. Cysylltwch â E-Assessment@cbac.co.uk am fanylion.
Yn weithredol o gyfres arholiadau Haf 2025, ni fyddwn bellach yn dosbarthu deunyddiau CD i ganolfannau ar gyfer asesiadau gyda chynnwys sain. Bydd y deunydd hwn ar gael i ganolfannau fel adnodd MP3 yn unig, y gellir ei lawrlwytho trwy ein safle Porth.
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Mae ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn Cyfathrebu Busnes Byd-eang yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o fuddion sgiliau iaith mewn economi fyd-eang ac yn rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gwybodaeth am Sbaeneg mewn cyd-destun galwedigaethol.