Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Lletygarwch ac Arlwyo (Dyfarniad Technegol)
Mae’r tasgau Asesiad Di-arholiad yn newid bob blwyddyn a gellir eu lawrlwytho o Porth (gellir dod o hyd i ganllawiau cam wrth gam i becynnau mynediad yma). Mae’r tasgau hyn ar gael bob mis Medi.
Gellir rhoi marciau’r Asesiad Di-arholiad ar gyfer cyfres yr haf ar Porth o 10 Mawrth ymlaen. Y dyddiad olaf i gyflwyno'r gwaith yw 5 Mai. O dan 'Pob gwasanaeth / Arholiadau ac Asesu / Marciau a Chanlyniadau Asesiadau Mewnol’ ar y porth diogel mae'r marciau yn cael eu rhoi a'r gwaith yn cael ei uwchlwytho.
Mae cymwysterau newydd TAAU, Sylfaen, Project Personol a Chyfres Sgiliau yn dod yn fuan - darganfyddwch fwy heddiw >
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Bydd ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn Lletygarwch ac Arlwyo yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r sector Lletygarwch ac Arlwyo ac yn rhoi cyfleoedd iddynt feithrin sgiliau ymarferol cysylltiedig. Mae'n ymdrin â'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo a lletygarwch ac arlwyo ar waith.
Edrych ar ffiniau graddau cyfresi arholiadau’r gorffennol
|
Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Lletygarwch ac Arlwyo 978-1-86085-746-1 |
|
![]() |
Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y cwrs Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Mae’r gwerslyfr hwn yn addas i ddysgwyr o bob gallu, ac mae’n rhoi sylw i’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen ar ddysgwyr wrth iddynt ddilyn y cwrs.
Mae Alison Palmer wedi bod yn dysgu Technoleg Bwyd a Lletygarwch ac Arlwyo ochr yn ochr ag ystod o bynciau galwedigaethol ers ugain mlynedd. Mae Alison wedi gweithio i gorff dyfarnu mawr am bymtheg mlynedd ac mae wedi treulio nifer o’r blynyddoedd hyn fel prif arholwr a chymedrolwr ar gyfer dau gymhwyster. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu dwy fanyleb, gan gynhyrchu adnoddau a chyflwyno DPP ac asesiadau arholiad.
> Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon |
Mae wedi dod i'n sylw bod y testun hwn yn cynnwys y gwall canlynol:
Ar dudalennau 222 a 223 mae'n nodi y gellir defnyddio cyfrifiannell maeth i helpu i ateb y cwestiwn a ofynnwyd. Mae hyn yn anghywir. Er eglurder, ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw adnodd i gefnogi eu hatebion ar gyfer cwestiynau ar gyfer 2.1.1 na 2.1.2.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y camgymeriad hwn a bydd yn cael ei gywiro mewn argraffiadau o'r testun a gyhoeddir yn y dyfodol.
Maw
Mai
Meh


