TGAU Ffrangeg
Mae'r Cyfnod Asesu ar gyfer cynnal Arholiadau Llafar TGAU a TAG yn rhedeg o ddydd Mercher 1 Ebrill tan ddydd Mercher 20 Mai 2026. Caniateir i ganolfannau asesu am 5 wythnos o fewn y cyfnod hwn yn unig. Nid yw'n ofynnol i'r cyfnod asesu hwn fod yn un di-dor, ac mae'n caniatáu seibiant dros wyliau'r Pasg ym mhob canolfan. Noder, ar gyfer Arholiadau Llafar TGAU, gall yr athro sy'n arholi agor y pecyn dri diwrnod gwaith cyn dyddiad asesu cyntaf y ganolfan. Rhaid cadw'r deunyddiau'n ddiogel ar ddiwedd pob diwrnod.
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu'r cymhwyster hwn yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll yr arholiadau ym mis Ionawr 2027, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2025 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster hwn ym Mlwyddyn 10, dylid eu cofrestru ar gyfer TGAU Ffrangeg - Dysgu o 2025
Yn weithredol o gyfres arholiadau Haf 2025, ni fyddwn bellach yn dosbarthu deunyddiau CD i ganolfannau ar gyfer asesiadau gyda chynnwys sain. Bydd y deunydd hwn ar gael i ganolfannau fel adnodd MP3 yn unig, y gellir ei lawrlwytho trwy ein safle Porth.
Mae ein manyleb TGAU Ffrangeg yn cefnogi'r nod y bydd astudio iaith dramor fodern yn ehangu gorwelion, yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol ac yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy er enghraifft hyder, cyfathrebu, datrys problemau a chreadigrwydd.
Mae rhoi sylfaen gadarn i'r dysgwyr i'w paratoi nhw ar gyfer astudio iaith yn y dyfodol hefyd yn un o nodau'r fanyleb.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
WJEC/CBAC TEITLAU WEDI'U CYMERADWYO
Teitl |
ISBN |
Awdur/on |
CBAC TGAU Ffrangeg | 9781785830860 | Bethan McHugh, Chris Whittaker, Louise Pearce |
CBAC TGAU Ffrangeg – Llyfr Athrawon | 9781785832314 | Bethan McHugh, Chris Whittaker, Louise Pearce |
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.

