Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol TGCh (Dyfarniad Technegol)
Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.
Cyflwynwch gais nawr ac ymunwch â'n tîm o arholwyr.
*Gan ddibynnu ar y pwnc, ac yn seiliedig ar farcio dyraniad llawn a chwblhau'r hyfforddiant (y cewch eich talu amdano).
Mae'r fanyleb wedi'i diweddaru, deunyddiau asesu enghreifftiol Uned 2, a chanllawiau addysgu Uned 2 wedi'u hailgyhoeddi ym mis Mai 2023.
Bydd ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn TGCh yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r sector TGCh ac yn rhoi cyfleoedd iddynt feithrin sgiliau ymarferol cysylltiedig. Mae'n ymdrin â TGCh yn y Gymdeithas; sy'n galluogi dysgwyr i archwilio'r amrywiaeth eang o ddefnyddiau o galedwedd, cymhwysiad a meddalwedd arbenigol, a TGCh mewn cyd-destun; sy'n cyflwyno dysgwyr i wybodaeth ymarferol eang am gronfeydd data, taenlenni, dogfennau a delweddau wedi'u hawtomeiddio.
Darganfyddwch Adnoddau Digidol YN RHAD AC AM DDIM!
Datgloi potensial eich dysgwyr gydag ystod drawiadol o adnoddau digidol, offer addysgu a deunyddiau YN RHAD AC AM DDIM.
Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn TGCh - Cydymaith Cwrs - Uned 1 978-1-86085-758-4 |
|
Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer cwrs Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn TGCh Uned 1 (Dyfarniad Technegol). Mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu er mwyn galluogi dysgwyr o alluoedd gwahanol i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud cynnydd a chwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.
Yn dilyn gyrfa ym myd busnes yn Lloegr, symudodd Linda Carlisle i Gymru yn 1987. Dysgodd Gymraeg, daeth yn athrawes Gymraeg ac yna’n Bennaeth TG yn ei hysgol uwchradd leol. Mae hi wedi bod yn datblygu manylebau, ysgrifennu deunyddiau asesu, marcio a safoni ers bron i 30 mlynedd. Bu Linda yn Uwch Arholwr ar gyfer TGAU CBAC mewn TGCh Cymhwysol (Dyfarniad Dwbl) drwy gydoly cymhwyster ac mae wedi bod yn Arbenigwr Pwnc i Ofqual. Mae hi’n marcio ac yn safoni ar gymwysterau Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadureg ar draws ystod o fanylebau.
> Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon |