UG/Safon Uwch Daearyddiaeth

new_releases
Diweddariad i'r fanyleb (o fis Medi 2024)

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad i'r fanyleb UG a Safon Uwch (addysgu o fis Medi 2024). Cymerwch olwg ar y fanyleb wedi'i diweddaru a'r deunydd ategol o dan y ddolen 'Manyleb' ar y dudalen hon.

new_releases
Cyflwyno Samplau Asesiad Di-arholiad 2026

Rhaid i'r holl samplau ADA TAG Daearyddiaeth gael eu huwchlwytho i IAMIS erbyn dydd Gwener 20 Mawrth 2026. Sylwch na chaiff cyflwyniadau post eu derbyn. Gellir dod o hyd i gyfarwyddyd llawn ar sut i uwchlwytho samplau i IAMIS yma. Bydd y Porth IAMIS ar gael ar gyfer cyflwyno marciau o 10 Mawrth 2026. 

new_releases
Gwasanaeth Cynghori ar deitlau ADA

Chwiliwch dan ‘Dogfennau Allweddol’ > ‘Canllawiau Ymchwiliad Annibynnol’ am ein ffurflen newydd os byddwch am gael cyngor pellach ar deitlau ADA eich disgyblion. Mae’r ffurflen at ddefnydd athrawon yn unig a dylech ei danfon ynghyd â’r ffurflenni cynnig sy’n peri pryder at y cyfeiriad ebost ar y ffurflen.

new_releases
Cyfleoedd Gwaith Maes yng Ngwersyll yr Urdd, Pentre Ifan

Hoffem eich hysbysu am gyfleoedd cyffrous i gynnal eich astudiaethau gwaith maes Blwyddyn 12, yn y Gymraeg neu'r Saesneg, yng nghanolfan Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan yn Sir Benfro. Gweler y daflen wybodaeth yn yr adran Canllawiau Gwaith Maes am fwy o fanylion am yr hyn sydd ar gael a sut i gofrestru!

Dysgu: Medi 2016
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Cyn-bapurau / Cynlluniau Marcio
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau
  • Adnoddau Digidol
  • Llyfrau

Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.

 

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC

  • Cyrsiau i ddod
  • Deunyddiau o ddigwyddiadau blaenorol
photo of Joanne Laity
Oes gennych chi gwestiwn?
Joanne Laity
phone_outline 02922 404 281
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Rob Williams
phone_outline 02922 404 281
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Charmaine Cook
Dyddiadau Allweddol
2026
13
Awst
Diwrnod Canlyniadau