Cyfres Cymwysterau Cymraeg i Oedolion
Ar y tudalennau hyn ceir gwybodaeth am y cymwysterau a'r adnoddau y mae CBAC yn eu darparu yn benodol i faes dysgu Cymraeg i Oedolion.
Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy'n dysgu Cymraeg o'r enw Defnyddio'r Gymraeg. Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Gellir ennill y cymwysterau drwy sefyll arholiadau ar ddiwrnodau penodol, ac maen nhw'n agored i oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith neu sydd wrthi'n dysgu ar hyn o bryd. Does dim rhaid bod mewn dosbarth penodol er mwyn sefyll yr arholiadau na bod wedi sefyll yr arholiadau is yn gyntaf. Mae'r cymwysterau'n addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle.
Mae dyddiadau arholiadau 2027 isod
Y dyddiad cau cofrestru ar gyfer arholiadau haf 2027 yw 1 Mawrth 2027.
Mynediad A1
-
Dydd Gwener, 29 Ionawr 2027 (Dyddiad cau cofrestru: 9 Rhagfyr 2026)
-
Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2027
-
Nos Fercher, 16 Mehefin 2027
Sylfaen A2
-
Dydd Gwener, 25 Mehefin 2027
Canolradd B1
-
Dydd Gwener, 18 Mehefin 2027
Uwch B2
-
Dydd Mercher a dydd Iau, 23 a 24 Mehefin 2027
Cysylltwch â’ch canolfan arholi/eich darparwr i gofrestru. Mae’r manylion yng nghefn pob llyfryn i ymgeiswyr. Ni all CBAC na’r canolfannau arholi warantu y bydd yr arholiad ar gael yn llawn yn eich ardal chi.
Defnyddiwch y dolenni yn y tabl isod i fynd at y lefel berthnasol i chi, a chwilio am y Llyfryn Gwybodaeth i Ymgeiswyr
ALTE
Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). Mae hon yn gymdeithas i sefydliadau sy'n cynnig arholiadau iaith ar draws Ewrop, yn cynrychioli 26 o ieithoedd gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am ALTE ar gael. Mae Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop yn disgrifio chwe lefel o hyfedredd iaith o A1 i C2. Gellir cael hyd i'r fframwaith ar wefan Cyngor Ewrop.
| Cymhwyster | Lefel yn y fframwaith | Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop |
| Mynediad | Mynediad | A1 |
| Sylfaen | 1 | A2 |
| Canolradd | 2 | B1 |
| Uwch | 3 | B2 |