Cyfres Cymwysterau Cymraeg i Oedolion

Dysgu: Medi 2011
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Cysylltiadau

Ar y tudalennau hyn ceir gwybodaeth am y cymwysterau a'r adnoddau y mae CBAC yn eu darparu yn benodol i faes dysgu Cymraeg i Oedolion.

Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy'n dysgu Cymraeg o'r enw Defnyddio'r Gymraeg.   Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.  Gellir ennill y cymwysterau drwy sefyll arholiadau ar ddiwrnodau penodol, ac maen nhw'n agored i oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith neu sydd wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.  Does dim rhaid bod mewn dosbarth penodol er mwyn sefyll yr arholiadau na bod wedi sefyll yr arholiadau is yn gyntaf.  Mae'r cymwysterau'n addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. 


Mae dyddiadau arholiadau 2026 isod  

Y dyddiad cau cofrestru ar gyfer arholiadau haf 2026 yw 27 Chwefror 2026.  

Mynediad A1  

  • Dydd Gwener, 30 Ionawr 2026 (Dyddiad cau cofrestru: 8 Rhagfyr 2025)  

  • Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2026  

  • Nos Fercher, 10 Mehefin 2026  

Sylfaen A2  

  • Dydd Gwener, 19 Mehefin 2026 

Canolradd B1  

  • Dydd Gwener, 12 Mehefin 2026  

Uwch B2  

  • Dydd Mercher a dydd Iau, 17 a 18 Mehefin 2026  

Cysylltwch â’ch canolfan arholi/eich darparwr i gofrestru. Mae’r manylion yng nghefn pob llyfryn i ymgeiswyr. Ni all CBAC na’r canolfannau arholi warantu y bydd yr arholiad ar gael yn llawn yn eich ardal chi.


Defnyddiwch y dolenni yn y tabl isod i fynd at y lefel berthnasol i chi, a chwilio am y Llyfryn Gwybodaeth i Ymgeiswyr

ALTE

Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). Mae hon yn gymdeithas i sefydliadau sy'n cynnig arholiadau iaith ar draws Ewrop, yn cynrychioli 26 o ieithoedd gwahanol.  Mae rhagor o wybodaeth am ALTE ar gael.  Mae Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop yn disgrifio chwe lefel o hyfedredd iaith o A1 i C2.  Gellir cael hyd i'r fframwaith ar wefan Cyngor Ewrop.

Cymhwyster Lefel yn y fframwaith Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop
Mynediad Mynediad A1
Sylfaen 1 A2
Canolradd 2 B1
Uwch 3 B2
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Emyr Davies
Oes gennych chi gwestiwn?
Emyr Davies ydw i
phone_outline 029 2026 5009
Swyddog Arholiadau
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
person_outline Rhys Davies
phone_outline 029 2026 5007
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Emyr Davies