UG/Safon Uwch Cerddoriaeth
Am resymau hawlfraint mae’r sain ar gyfer y cyn bapurau ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan ddiogel i staff y ganolfan yn unig.
Mae'r briffiau cyfansoddi ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan ddiogel. Atgoffir canolfannau bod rhaid i'r Cyfansoddiad i Friff ddangos dealltwriaeth o'r Traddodiad Clasurol Gorllewinol. Mae taflenni a ffurflenni log wedi'u diweddaru ar gyfer Cyfansoddi a Pherfformio bellach ar gael i'w lawrlwytho o'r dudalen hon.
Yn weithredol o gyfres arholiadau Haf 2025, ni fyddwn bellach yn dosbarthu deunyddiau CD i ganolfannau ar gyfer asesiadau gyda chynnwys sain. Bydd y deunydd hwn ar gael i ganolfannau fel adnodd MP3 yn unig, y gellir ei lawrlwytho trwy ein safle Porth.
Mae ein manyleb UG/Safon Uwch Cerddoriaeth yn cynnig cwrs astudio eang, hyblyg a chydlynol sy'n annog dysgwyr i gymryd rhan weithredol yn y broses o astudio cerddoriaeth.
Mae'n cynnig cyfle i ddysgwyr astudio cerddoriaeth mewn ffordd gyfun lle mae'r sgiliau perfformio, cyfansoddi a gwerthuso yn atgyfnerthu gwybodaeth a dealltwriaeth o elfennau, iaith a chyd-destunau cerddorol.
Cliciwch i lawrlwytho ein app Cerddoriaeth newydd ar gyfer athrawon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau.


Mai
Mai
Meh