CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Lletygarwch ac Arlwyo
Mae lletygarwch ac arlwyo yn rhan hanfodol o economi Cymru, yn cynnig miloedd o swyddi a chyfleoedd i ddatblygu. Mae'r cymhwyster hwn yn cyflwyno'r sector drwy dasgau ymarferol, sy'n ennyn diddordeb, sy'n cwmpasu diogelwch bwyd, hylendid a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae dysgwyr yn cymhwyso gwybodaeth mewn senarios go iawn, gan feithrin hyder a sgiliau trosglwyddadwy. Wedi'i lunio i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, mae'n hyrwyddo cynaliadwyedd, gwaith tîm a chyfathrebu tra'n paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau pellach neu gyflogaeth yn un o ddiwydiannau mwyaf dynamig Cymru.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i lunio ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad a Lefel 1 sydd eisiau ennill sgiliau lletygarwch ac arlwyo ymarferol. Mae'n addas i'r rheiny sydd â diddordeb mewn paratoi bwyd, hylendid a gwasanaeth cwsmeriaid tra'n meithrin sgiliau trosglwyddadwy fel gwaith tîm a chyfathrebu. Mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr y mae'n well ganddynt dasgau ymarferol, ac mae'n gweithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau galwedigaethol Lefel 1 neu Lefel 2 a rolau lefel mynediad yn y sector lletygarwch yng Nghymru.