CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Gwasanaethau Cyhoeddus

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol yn y gymdeithas yng Nghymru, gan sicrhau iechyd, diogelwch, addysg a llesiant y gymuned. Maen nhw'n ffurfio un o'r sectorau cyflogaeth mwyaf yng Nghymru, gan gynnig cyfleoedd ar draws gofal iechyd (GIG), gwasanaethau brys, llywodraeth leol, addysg a'r lluoedd arfog. 

Mae'r sector yn cefnogi isadeiledd hanfodol, yn hybu tegwch cymdeithasol, ac yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ddysgwyr i faes lle mae cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon-boed hynny drwy rolau rheng flaen neu drwy arweinyddiaeth strategol. 

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Gwasanaethau Cyhoeddus wedi'i lunio i hyrwyddo profiadau galwedigaethol cadarnhaol i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed mewn ysgolion sy'n gweithio ar Lefel Mynediad hyd at Lefel 1. 

Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall rôl bwysig gwasanaethau cyhoeddus yn y gymdeithas yng Nghymru ac mae'n gweithredu fel sylfaen ardderchog i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 ac, lle bo'n briodol, i astudio TGAU neu TAAU.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Kerri David
Oes gennych chi gwestiwn?
Kerri David
phone_outline 02920 265000
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?