CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Chwaraeon a Hamdden
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Mae Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith CBAC mewn Chwaraeon a Hamdden yn cynnig cyflwyniad diddorol ac ymarferol i ddysgwyr rhwng 14 a 16 oed i sector sy'n chwarae rhan hanfodol o ran iechyd, llesiant ac ymdeimlad dysgwyr o 'gynefin' yng Nghymru.
Mae'n datblygu gwybodaeth hanfodol a sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau, yn ogystal â hyder wrth weithio gydag eraill mewn lleoliadau gweithgareddau go iawn.
Mae'r cymhwyster yn cefnogi symud ymlaen i lwybrau astudio ôl-16 a chyflogaeth, gan helpu dysgwyr i archwilio cyfleoedd gyrfa gwirioneddol ar draws chwaraeon a hamdden yng Nghymru.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Chwaraeon a Hamdden wedi'i lunio i hyrwyddo profiadau galwedigaethol cadarnhaol ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio o Lefel Mynediad hyd at Lefel 1.
Mae'n cynnig llwybr strwythuredig, ymarferol i ddeall rôl chwaraeon a hamdden ym mywydau pobl yng Nghymru, gan helpu dysgwyr i feithrin hyder a sgiliau craidd.
Mae'r cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen ardderchog ar gyfer symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 ac, lle bo'n briodol, i astudio TGAU neu TAAU.
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.