CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info

Mae'r diwydiant adwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid yn creu llawer o swyddi yng Nghymru ac yn un o'r sectorau mwyaf, sy'n darparu swyddi i oddeutu 200,000 o bobl – tua 1 o bob 7 o'r boblogaeth. Mae'r diwydiant hwn yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd pob dydd ac yn cyfrannu £6.8 biliwn at economi Cymru. Bydd dysgwyr yn archwilio byd dynamig adwerthu ac yn darganfod y rôl hanfodol y mae gwasanaeth cwsmeriaid yn ei chwarae ynddo.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi'i gynllunio i hyrwyddo profiadau galwedigaethol cadarnhaol i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed mewn ysgolion sy'n gweithio ar Lefel Mynediad hyd at Lefel 1. Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall rôl bwysig Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid yng Nghymru ac mae'n gweithredu fel sylfaen ardderchog i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 ac, lle bo'n briodol, i astudio TGAU neu TAAU.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Nina Rees
Oes gennych chi gwestiwn?
Nina Rees
phone_outline 02920 265000
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?