CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Y Gwyddorau
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Y Gwyddorau
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol hanfodol, sgiliau ymholi ymarferol, a hyder wrth gymhwyso gwyddoniaeth at sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol hanfodol, sgiliau ymholi ymarferol, a hyder wrth gymhwyso gwyddoniaeth at sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae'n gweithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau bob dydd, gan helpu dysgwyr i ddeall sut mae gwyddoniaeth yn effeithio ar eu bywydau a'r byd o'u cwmpas nhw. Wedi'i alinio â'r Cwricwlwm i Gymru, mae'r cymhwyster hwn yn meithrin chwilfrydedd.
Mae'n annog hyblygrwydd, datrys problemau a gwneud penderfyniadau gwybodus, gan baratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad/Lefel 1 yn y pwnc hwn.
Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed. Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi.
Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) a TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd).
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.