CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Y Dyniaethau
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Y Dyniaethau
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i ganolfannau gyflwyno cymhwyster sy'n rhychwantu Lefel Mynediad a Lefel 1 ac sy'n cynnwys amrywiaeth o bynciau'r dyniaethau.
Bydd dysgwyr yn gallu teilwra eu cwrs drwy ddewis dwy uned pwnc benodol allan o bump o unedau'r dyniaethau:
- Busnes
- Daearyddiaeth
- Hanes
- Astudiaethau Crefyddol
- Astudiaethau Cymdeithasol.
Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau uned sy'n dod â'r pum pwnc ynghyd drwy eu dehongli ar sail hynod berthnasol Cynaliadwyedd Amgylcheddol.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad/Lefel 1 yn y pwnc hwn.
Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed.
Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi. Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio pob un o'r pum TGAU cyfatebol yn y Dyniaethau drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth, sgiliau a thestunau tebyg ym mhob uned.