CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Y Celfyddydau Mynegiannol

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Y Celfyddydau Mynegiannol
 
Bydd y cymhwyster yn cynnwys y pynciau canlynol:
  • Celf a Dylunio
  • Dawns
  • Ffilm a Chyfryngau Digidol
  • Drama
  • Cerddoriaeth.
Drwy'r broses greadigol, mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr archwilio ac ymateb i gyd-destunau amrywiol ac adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain.
 
Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall y ffordd y mae’r celfyddydau mynegiannol yn cyfathrebu drwy ddulliau gweledol, corfforol, geiriol, cerddorol a thechnolegol, tra'n tynnu ar eu profiadau, eu sgiliau a'u talentau. 
  
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
  
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Fynediad 1 i Lefel 1 yn y celfyddydau mynegiannol.
 
Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed.
  
Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi.
 
Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU mewn pynciau cysylltiedig drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Victoria Husband
Oes gennych chi gwestiwn?
Victoria Husband
phone_outline 029 2240 4302
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Victoria Husband