CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Technoleg Ddigidol

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info

Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Technoleg Ddigidol

Mae'r cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i ddeall sut mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio mewn bywyd pob dydd.

Mae'n addysgu'r dysgwyr sut i gadw'n ddiogel ar-lein, datrys problemau gan ddefnyddio data ac offer digidol, a chreu cynnwys digidol.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau digidol ymarferol ac yn magu hyder wrth ddefnyddio technoleg, gan eu paratoi ar gyfer dysgu pellach, tasgau bob dydd a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad/Lefel 1 sydd â diddordeb mewn defnyddio technoleg ddigidol mewn bywyd pob dydd, yn yr ysgol, neu yn y gweithle.

Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed. Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi.

Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Technoleg Ddigidol drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Gareth Gillard
Oes gennych chi gwestiwn?
Gareth Gillard
phone_outline 02920 265355
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?