CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Mathemateg a Rhifedd
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Mathemateg a Rhifedd
Mae'r cymhwyster hwn yn ymdrin â thestunau mathemategol allweddol ar Lefel Mynediad, yn ogystal ag amrywiaeth o gynnwys Lefel 1 sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i astudio ar lefel TGAU.
Mae'r holl destunau'n berthnasol iawn i ddysgwyr heddiw a byddan nhw'n helpu i ddatblygu'r pum hyfedredd rhyngddibynnol sy'n ffurfio egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm i Gymru.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad/Lefel 1 yn y pwnc hwn.
Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed. Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi.
Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd) drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.