
Ein cenhadaeth yw cynnig cyngor a chefnogaeth barhaus i'r rheiny sy'n addysgu Project Estynedig CBAC mewn ysgolion a cholegau, gan gynorthwyo i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni eu gorau. Rydym yn cynnig:
- Mynediad diderfyn at adnoddau electronig ac adnoddau print
- Amrywiaeth eang o ddeunyddiau enghreifftiol drwy ein gwefan ddiogel
- Cyrsiau hyfforddi DPP wyneb yn wyneb
- Defnydd opsiynol o'r llwyfan e-gyflwyno ar-lein
- Ymweliadau â chanolfannau newydd
- Cyswllt uniongyrchol parhaus ag arbenigwyr pwnc drwy e-bost neu dros y ffôn
- Swyddogion Cefnogi Rhanbarthol hawdd cysylltu â nhw
- Cefnogaeth a chyngor i ganolfannau ynglŷn â chymeradwyo cynigion project a theitlau arfaethedig
"Teimlaf fod y Project Estynedig wedi bod yn hynod o fuddiol oherwydd mae wedi cynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer y brifysgol. Rwyf hefyd yn ei hoffi oherwydd mae'r gefnogaeth gan CBAC yn arbennig a rydym yn cael ymateb yn syth i unrhyw ymholiadau. Athro o Plymouth
"Yn bersonol, rydw i wrth fy modd yn addysgu'r Project Estynedig oherwydd mae'n addas ar gyfer dysgwyr academaidd iawn a hefyd ar gyfer dysgwyr nad ydynt efallai yn rhagori mewn sefyllfaoedd arholiad ond sy'n gweithio'n gyson drwy gydol y flwyddyn." – Darlithydd Coleg o Orllewin Cymru
"Dywedodd prif athrawon bod y cymhwyster yn dod yn fwy poblogaidd ac y gallai fod o gymorth i gryfhau ceisiadau prifysgol ymgeiswyr... Mae ffigurau a gafodd eu cyhoeddi gan y Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC) yn dangos bod 33,245 o ymgeiswyr wedi dilyn y cymhwyster yr haf diwethaf. Roedd 15,958 wedi dilyn y cwrs yn 2010 felly mae cynnydd o 108% wedi bod ers hynny." Newyddion BBC (8 Awst 2015)
Ewch i dudalen Cymhwyster Project Estynedig am ragor o wybodaeth.
Astudiaethau Achos





