- - Telerau ac Amodau Dysgu Proffesiynol

Cadw lle ar gwrs Dysgu Proffesiynol CBAC
- Dylech gadw eich lle ar ein holl gyrsiau ar-lein drwy wefan CBAC. Byddwch yn derbyn e-bost cydnabyddiaeth awtomatig pan fyddwch yn cofrestru.
- Anfonir neges atgoffa am ddigwyddiad sydd i ddod, gydag amseroedd a manylion y lleoliad, yn cynnwys manylion DPP ar-lein dros e-bost hyd at 10 diwrnod cyn dyddiad y cwrs.
- Dylai cynrychiolwyr sicrhau eu bod wedi derbyn y manylion cadarnhau cyn mynychu neu fewngofnodi i'r cwrs. Cysylltwch â dpp@cbac.co.uk os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth hyd at 5 diwrnod cyn dyddiad y cwrs.
- Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod lleoedd ar gael i bawb sy'n dymuno cofrestru ar gyfer digwyddiad, os nad yw'n bosibl cadw lle ar-lein ar gyfer y digwyddiad yr hoffech ei fynychu, cysylltwch â dpp@cbac.co.uk i gofrestru eich diddordeb. Argymhellir felly eich bod yn cadw eich lle yn gynnar er mwyn osgoi siom.
- Noder bod lleoedd ar ein cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein RHAD AC AM DDIM wedi'u cyfyngu i un cynrychiolydd o bob canolfan. Bydd disgwyl i gyfranogwyr ychwanegol sy'n mewngofnodi ar y diwrnod dalu ffioedd ychwanegol.
- Ni fydd modd i chi gadw lle dros dro.
Prisiau ein cyrsiau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26
- Mae cyrsiau sy'n cyflwyno manylebau newydd cyn dechrau addysgu'r cymhwyster
yn rhad ac am ddim. - Mae gweminarau yn £100
- Mae cyrsiau diwrnod llawn yn £210
- Mae cyrsiau hanner diwrnod yn £105
Ar gyfer cyrsiau y mae'n rhaid talu amdanynt, caiff anfoneb ei chreu'n awtomatig cyn i'r digwyddiad gael ei gynnal. Sicrhewch bod yr awdurdod gennych i gadw lle. Eich Canolfan (lle bo'n briodol) sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
Dyddiadau cau ar gyfer cadw lle
Mae'r dyddiad cau i gadw lle ar gyfer y cyrsiau wyneb yn wyneb 5 diwrnod ymlaen llaw, tra bod y dyddiad cau i gadw lle ar gyfer y gweminarau 2 awr cyn iddyn nhw gychwyn. Rydym yn argymell eich bod yn cadw lle'n gynnar i osgoi cael eich siomi. Os yw eich ysgol neu goleg yn cadw lle ar eich rhan chi, gwiriwch gyda nhw ymhell ymlaen llaw i sicrhau cadarnhad ar y cwrs yr hoffech ei fynychu. Os nad ydych yn gallu cael lle, cysylltwch â ni i gael cyngor. Noder, ar gyfer archebion hwyr, yn amodol ar argaeledd, ni fyddwn yn gallu darparu ar gyfer gofynion deiet arbennig ar ôl y dyddiad cau 5 diwrnod cyn y cwrs. Ni dderbynnir unrhyw archebion hwyr ar ôl 1:00pm y diwrnod cyn y digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Noder, nid ydym yn derbyn archebion prynu fel ffurf o gadw lle. I gadw lle, mae angen gwneud hyn ar lein.
Diwygio eich manylion cadw lle
Pe byddai angen i chi ddiwygio eich archeb, er enghraifft newid manylion enw neu fanylion cyswllt, cysylltwch â dpp@cbac.co.uk. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad ar ddiwrnod y cwrs i unrhyw un sy'n mynychu'r digwyddiad nad yw wedi cofrestru.
Polisi Canslo'r Cynrychiolwyr
Gallwch ganslo ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig hyd at bum diwrnod gwaith cyn digwyddiad yn ddi-dâl (lle bo'n berthnasol). Cysylltwch â dpp@cbac.co.uk os hoffech ganslo eich archeb ac osgoi gorfod talu ffi.
Os nad yw person yn mynychu neu'n cymryd rhan mewn cwrs ar-lein neu wyneb yn wyneb a heb ganslo o fewn pum diwrnod gwaith, codir y ffi lawn, os yn berthnasol.
Canslo neu Ohirio'r Cwrs gan CBAC
Yn achlysurol, bydd angen i ni aildrefnu, newid lleoliad neu ganslo cwrs, ac rydym yn cadw'r hawl i wneud hynny. Os bydd hynny'n digwydd, byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os byddwn yn canslo digwyddiad, byddwn yn ad-dalu unrhyw ffioedd cynrychiolwyr cysylltiedig.
Costau Cysylltiedig Eraill
Nid yw CBAC yn gyfrifol am unrhyw gostau cysylltiedig y mae'n rhaid i ganolfan neu gynrychiolydd eu talu yng nghyswllt y canlynol:
- Cadw lle/mynychu digwyddiad
- Canslo/gohirio digwyddiad
- Camddeall gwybodaeth CBAC / gwybodaeth wallus gan CBAC
Recordiadau Sain
Noder y bydd recordiad sain yn cael ei wneud ymhob digwyddiad yn unol â chanllawiau Cymwysterau Cymru.
Deunyddiau Cwrs
Bydd yr holl ddeunyddiau ategol sy'n cael eu darparu yn ein digwyddiadau ar gael ar Porth CBAC 2 diwrnod ar ôl i ddigwyddiad olaf pob cyfres gael ei gynnal.
Parcio mewn lleoliadau
- Noder nad oes sicrwydd o le parcio mewn unrhyw leoliad.
- Cyfrifoldeb y cynrychiolwyr sy'n dod i'r digwyddiad yw talu i barcio car.
- Ewch i wefan y lleoliad i weld beth yw'r trefniadau parcio a pha gyfleusterau cludiant cyhoeddus sydd ar gael.
Polisi Preifatrwydd
Cliciwch yma i weld ein Polisi Preifatrwydd.