Gall ein cyrsiau wyneb yn wyneb fod yn ddigwyddiadau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn a chynnig cyfleoedd i ymarferwyr gyfarfod a gweithio gyda'n tîm cyflwyno arbenigol, sy'n athrawon profiadol, swyddogion pwnc, arholwyr neu gymedrolwyr gyda phrofiad a gwybodaeth fanwl o'r cynnwys.
Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb yn gyfle gwerthfawr i:
- Ddod i adnabod manyleb newydd, deall y cynnwys a'i strwythur asesu.
- Datblygu dealltwriaeth o asesiadau diweddar drwy adolygu deunyddiau enghreifftiol ac ymarfer marcio.
- Caffael strategaethau addysgu a dysgu ymarferol.
- Gwella eich dealltwriaeth o themâu, testunau a sgiliau pwnc.
- Cyfoethogi eich cynllunio a'ch cronfa o adnoddau ystafell ddosbarth.
- Rhannu arferion effeithiol a rhwydweithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr.
Drwy fynychu un o'n cyrsiau byddwch hefyd yn derbyn pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau'r cwrs y gallwch fynd gyda chi a'u rhannu â'ch cydweithwyr.
Gallwch gadw lle yma nawr.
“Diwrnod gwych, rydw i wedi dysgu gymaint. Rwy'n teimlo'n hyderus iawn am gyflwyno'r cwrs ym mis Medi." L. Roberts, yr Wyddgrug
“Hwn oedd y DPP gorau i mi ei fynychu. Rhediad da, adnoddau da, dulliau cyflwyno gwybodus, enghreifftiau defnyddiol." Sarah Gray, Caerdydd
Mae ein gweminarau byw, ar-lein wedi'u trefnu rhwng 4 a 6yh fel arfer, a gallwch gymryd rhan o'ch ystafell ddosbarth neu o'ch cartref gyda chyfrifiadur personol / gliniadur gyda bysellfwrdd a chlustffonau / seinyddion. Yn y bôn, mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i fod yn addysgiadol, yn ddiddorol ac yn rhyngweithiol.
Mae ein hardal hyfforddiant ar-lein sy'n syml i'w defnyddio yn eich galluogi i wneud y canlynol:
- Gwylio, gwrando a dysgu: gwylio cyflwyniadau byw, gwrando ar arbenigwyr pwnc a dysgu ganddynt.
- Trafod, rhwydweithio a rhannu syniadau: cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp ac arolygon barn, ymarfer marcio a sgwrsio gyda chydweithwyr eraill.
- Gofyn cwestiynau a llwytho deunydd i lawr: bydd eich cwestiynau'n cael eu hateb trwy gydol y sesiwn a gallwch lwytho'r deunyddiau cefnogaeth i lawr ar unrhyw adeg ar gyfer cynllunio yn y dyfodol neu at ddefnydd yn yr ystafell ddosbarth.
Llwythwch i lawr ein canllaw ymarferol i gymryd rhan mewn cwrs ar-lein.
“Diolch am gwrs cynhyrchiol ac addysgiadol.” Lowri Saunders, Llanelli
Bydd deunyddiau sy'n cael eu darparu yn ein digwyddiadau ar gael ar Wefan Ddiogel CBAC am hyd at 7 diwrnod ar ôl i ddigwyddiad olaf pob cyfres gael ei gynnal.
Fel canolfan gofrestredig CBAC, bydd eich Swyddog Arholiadau yn cadw manylion mewngofnodi i gyrchu'r wefan ddiogel.
Gallwch gadw lle nawr yma.