Mynediad rhad ac am ddim i sgriptiau wedi'u marcio

Er mwyn cefnogi'ch addysgu a datblygu eich dealltwriaeth o asesiadau, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnig mynediad rhad ac am ddim i bob sgript sydd wedi'i farcio o fis Awst ymlaen.

 

Bydd ysgolion a cholegau sy'n cyflwyno ein cymwysterau nawr yn gallu cael mynediad at sgriptiau ymgeiswyr wedi'u marcio o Ddiwrnod y Canlyniadau drwy ein Gwefan Ddiogel. Bydd y rhain ar gael ar gyfer yr holl asesiadau allanol o Haf 2023, gan gynnwys yr holl gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Galwedigaethol.*

 

Bydd pob sgript ar gael fel PDF ac yn cynnwys y marciau ac unrhyw sylwadau a wneir gan ein harholwyr hyfforddedig i'ch helpu i adolygu perfformiad eich dysgwyr. Gall y rhain hefyd fod yn gymhorthion ystafell ddosbarth defnyddiol, i ddangos cryfderau dysgwyr presennol a chamgymeriadau cyffredin y dylent eu hystyried mewn asesiadau yn y dyfodol.

 

Bydd rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael cyn Diwrnod y Canlyniadau ym mis Awst, fodd bynnag, mae cyfres fer o Gwestiynau Cyffredin ar gael isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost at adborth@cbac.co.uk.

 

*Cofiwch fod yn rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr ymgeisydd cyn cael mynediad at ei sgript(iau). Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at sgriptiau i ategu adolygiadau o'r marcio ac/neu i ategu addysgu a dysgu.Mae manylion llawn yr amodau'n ymwneud â chael mynediad at sgriptiau i'w cael yn llyfryn Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau y CGC.