Datblygu dealltwriaeth eich dysgwyr o gynaliadwyedd a rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau iddyn nhw fydd yn eu paratoi at swyddi 'Sero Net' y dyfodol.
Mae CBAC wedi cydweithio â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i greu cyfres o gymwysterau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd:
Dysgwch fwy isod a chofrestrwch eich diddordeb i addysgu’r cymwysterau hyn wrth gysylltu â cynaliadwyedd@cbac.co.uk. Gallwch hefyd danysgrifio am y newyddion diweddaraf.
Yr hyn y mae’r athrawon yn ei ddweud: Donna Gwilliam
Ar ôl cyflwyno’r cymhwyster Cynaliadwyedd ar Waith gan CBAC, mae Donna Gwilliam o Grŵp Colegau NPTC yn dweud bod dysgwyr yn ymgysylltu â chynaliadwyedd fel na welwyd erioed o’r blaen.
Darganfyddwch sut mae cymwysterau arloesol CBAC yn helpu athrawon i ddatblygu sgiliau gwyrdd ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi'r dyfodol.
Yr hyn y mae’r dysgwyr yn ei ddweud: Coleg Sir Gâr
Yng Ngholeg Sir Gâr, mae dysgwyr yn darganfod sut mae cynaliadwyedd yn mynd y tu hwnt i'r dosbarth — gan gysylltu eu hastudiaethau gyda bywyd go iawn a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau hyn?
Mae ein cymwysterau Cynaliadwyedd wedi'u llunio i'w cyflwyno ar draws amrywiaeth o leoliadau, o ysgolion a darparwyr Addysg Bellach i'r gweithle. Mae ein cymwysterau'n ystyried cynaliadwyedd mewn ffordd gyfannol, gyda'r nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Pam dewis CBAC?
Dim ffioedd cymeradwyo canolfannau
Mae ffioedd yn daladwy wrth ymrestru dysgwyr, ac nid oes isafswm o ran maint carfan.
Cyfnod ymrestru a dyfarnu hyblyg
Mae'n bosibl ymrestru dysgwyr i'w hardystio ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau i gefnogi eu cynnydd.
Cefnogaeth dros rychwant oes y cymwysterau
Mae CBAC wedi ymrwymo i gefnogi canolfannau a dysgwyr dros rychwant oes ein cymwysterau, ni waeth beth fo maint y garfan.
![]() |
"Mae gadael planed y gall pobl y dyfodol fyw arni yn ddyletswydd anrhydeddus, ... mae hwn yn gam cadarnhaol a chyffrous ymlaen i'r Cwricwlwm newydd i Gymru..."
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru |
Mae Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan, yn esbonio rôl ein cymwysterau Cynaliadwyedd newydd mewn cyfweliad ar gyfer BusinessNewsWales.com. Gwrandewch nawr neu darllenwch drawsgrifiad y cyfweliad.

