- Cwestiynau Cyffredin
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- - Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- - Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- - Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- - Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
Project Personol
Mae'r Project Personol yn esblygiad o'r Dystysgrif Her Sgiliau, ac yn cynnig cyfle i ddysgwyr gwblhau project dysgu annibynnol ar destun o'u dewis gyda'r nod o ddatblygu ac arddangos pedwar sgìl allweddol:
- cynllunio a threfnu
- creadigrwydd ac arloesi
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- effeithiolrwydd personol
Mae'r Project Personol wedi'i gynllunio i'w wneud ochr yn ochr â'n cymwysterau Sylfaen, TGAU, TAAU a/neu unedau Cyfres Sgiliau newydd.
![]() |
Project Personol Gweld Canllaw Cyflyn |
Cyfres Sgiliau
Mae'r Gyfres Sgiliau yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddewis o blith amrywiaeth eang o 28 o gymwysterau Sgiliau Bywyd ac 19 o gymwysterau Sgiliau Gwaith.
Mae'r unedau byr hyn wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'n cymwysterau Ton 3 eraill, a gellir eu hastudio ar draws amrywiaeth o lefelau o Lefel Mynediad i Lefel 2.
Rydym yn cydweithio â sefydliadau mawr ar draws Cymru a thu hwnt i greu amrywiaeth o unedau perthnasol a diddorol a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth hanfodol i ddysgwyr ar gyfer bywyd a'r gweithle.
![]() |
Cyfres Sgiliau Gweld Canllaw Cyflyn |
| Sgiliau Bywyd | |
|
|
| Sgiliau am Oes | |
|
|
Pam dewis CBAC ar gyfer cymwysterau Cenedlaethol 14-16?
- Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu cymwysterau yn benodol i Gymru. Rydyn ni'n gweithio gyda dros 300 o ysgolion yng Nghymru bob blwyddyn, gan ddarparu asesiadau cywir, teg a hygyrch i bron 100,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.
- Rydyn ni wedi cydweithio ag athrawon a rhanddeiliaid o'r byd addysg i gyd-greu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 1 a Thon 2, a byddwn yn cymryd popeth rydyn ni wedi'i ddysgu o'r broses hon i sicrhau bod y cymwysterau Ton 3 hyn yn berffaith addas i athrawon a dysgwyr fel ei gilydd.
- Mae pob cymhwyster yn cael ei greu'n ddwyieithog o'r gwaelod i fyny, yn benodol i ddysgwyr yng Nghymru.
- Byddwn yn darparu'r pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth y byddech chi'n ei ddisgwyl gan CBAC, gan gynnwys adnoddau digidol o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu proffesiynol dan arweiniad arbenigwyr.


