Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith

Lluniwyd ein Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith i ysbrydoli ac i gefnogi dysgwyr, gan gynnig rhaglen dros ddwy flynedd sy'n hygyrch, sy'n ennyn diddordeb, ac wedi'i gwreiddio mewn dysgu yn y byd go iawn. 

  

Gyda phwyslais cryf ar weithgareddau a phrofiad ymarferol, mae'r cymwysterau hyn yn helpu dysgwyr i feithrin hyder, datblygu sgiliau hanfodol, a mwynhau llwyddiant ystyrlon. 

    

Ein Cymwysterau Sylfaen Cyylltiedig â Gwaith 

Canllaw Cyflym Adwerthu Sylfaen Lefel Mynediad/Lefel 1 Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Amgylchedd Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Amgylchedd Adeiledig 
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Chwaraeon Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Chwaraeon a Hamdden 
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Thechnoleg Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg 
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Gwasanaethau Cyhoeddus Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Gwasanaethau Cyhoeddus 
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Iechyd a Gofal Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Arlwyo Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Lletygarwch ac Arlwyo
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Peirianneg Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Peirianneg
Gweld Canllaw Cyflyn
Canllaw Cyflym Teithio Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Teithio a Thwristiaeth
Gweld Canllaw Cyflyn

Pam dewis CBAC ar gyfer cymwysterau Cenedlaethol 14-16?

  • Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu cymwysterau yn benodol i Gymru. Rydyn ni'n gweithio gyda dros 300 o ysgolion yng Nghymru bob blwyddyn, gan ddarparu asesiadau cywir, teg a hygyrch i bron 100,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.
  • Rydyn ni wedi cydweithio ag athrawon a rhanddeiliaid o'r byd addysg i gyd-greu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 1 a Thon 2, a byddwn yn cymryd popeth rydyn ni wedi'i ddysgu o'r broses hon i sicrhau bod y cymwysterau Ton 3 hyn yn berffaith addas i athrawon a dysgwyr fel ei gilydd.
  • Mae pob cymhwyster yn cael ei greu'n ddwyieithog o'r gwaelod i fyny, yn benodol i ddysgwyr yng Nghymru.
  • Byddwn yn darparu'r pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth y byddech chi'n ei ddisgwyl gan CBAC, gan gynnwys adnoddau digidol o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu proffesiynol dan arweiniad arbenigwyr.


"Drwy ddysgu ymarferol ac asesu hyblyg, mae ein Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith yn ysbrydoli dysgwyr i ddarganfod eu potensial, i lwyddo ac i baratoi ar gyfer cyfleoedd i astudio ymhellach a chamu i'r byd gwaith.
"


Sarah Harris | Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol) 

Sophie Dobbs WJEC

Angen gwybodaeth neu arweiniad pellach?


Mae ein tîm cefnogi wrth law bob amser i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd, cysylltwch â ni heddiw.


Sophie Dobbs | ton3@cbac.co.uk