- - Diwygio UG/Safon Uwch Cymraeg
Cefndir a phwrpas
Yn gynharach eleni, yn dilyn ymgysylltu helaeth â’r sector addysg, ymgynghorodd Cymwysterau Cymru ar gynigion dylunio ar gyfer cymwysterau newydd i ddisodli’r cymwysterau Lefel A presennol mewn Cymraeg iaith gyntaf a Cymraeg ail iaith. Gwnaed penderfyniadau ar sail y canfyddiadau hyn ac amcanion polisi strategol ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ac addysg Gymraeg. O ganlyniad, datblygwyd Meini Prawf Cymeradwyo y bydd CBAC yn eu dilyn wrth ddylunio a datblygu’r cymwysterau newydd.
Nod y cymwysterau yw cefnogi dysgwyr i fod yn ddefnyddwyr hyderus a medrus o’r Gymraeg, gan hybu mwynhad a datblygiad gydol oes, a chefnogi dilyniant i addysg uwch. Bydd hyn hefyd yn cyfrannu at ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithlu dwyieithog, gan gynnwys y sector addysg.
Rydym yn annog pob rhanddeiliad – athrawon, darlithwyr, arweinwyr ysgolion a cholegau, dysgwyr, rhieni a gofalwyr, cynrychiolwyr addysg uwch, cyflogwyr a chyrff proffesiynol – i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae eich adborth yn hanfodol i sicrhau bod y cymwysterau hyn yn gadarn, yn berthnasol ac yn diwallu anghenion dysgwyr. Drwy rannu eich barn a’ch arbenigedd, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at lunio cymwysterau sy’n adlewyrchu realiti’r ystafell ddosbarth, disgwyliadau addysg bellach ac uwch, a gofynion y gweithle. Rydym wedi ymrwymo i wrando’n ofalus ar bob ymateb wrth ddatblygu cymwysterau a fydd yn cefnogi dyfodol y Gymraeg a’i dysgwyr.
Ymgynghoriad yn agor yn fuan: Rydym wrthi'n cwblhau'r ymgynghoriad a byddwn yn rhannu'r cyswllt yma maes o law.